Case Study, Document

Gweithgaredd 2: Beth allwn ni ei wneud?

Cynradd Is - Creu syniadau ar gyfer prosiect menter.

Cyhoeddwyd gyntaf: 11 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf: 11 Mai 2026
Download document: 20.69 KB, PDF

This file may not be fully accessible.

Amcan Dysgu 

Creu syniadau ar gyfer prosiect menter. 

Nodweddion Entrepreneuriaeth 

Creadigedd 

  • Datrys problemau 
  • Meddwl dargyfeiriol – creu syniadau 
  • Arloesi 

Cysylltiadau

  •  Trafod, darbwyllo a dylanwadu 

Trefniadaeth 

  • Gwneud penderfyniadau 

Eglurwch wrth y dosbarth eu bod yn mynd i gymryd rhan mewn prosiect sef Y Criw Mentrus a chael cyfle i fod yn ‘entrepreneuriaid’ go iawn. 

Cyflwynwch y dosbarth i’r Criw Mentrus: Amy (ar gyfer agwedd), Rhian (ar gyfer cysylltiadau) Callum (ar gyfer creadigedd) ac Owain (ar gyfer trefniadaeth). 

Eglurwch eu bod yn cael cyfle i gymryd rhan yn her Y Criw Mentrus h.y meddwl am brosiect menter i ateb gofynion yn yr ysgol neu’r gymuned . 

Gan ddefnyddio syniadau o blith y galwedigaethau a nodwyd yng ngweithgaredd 1, anogwch y disgyblion i feddwl am syniadau am gynnyrch y gallent ei wneud neu wasanaeth y gallent ei ddarparu. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â digwyddiad priodol yng nghalendr yr ysgol. Gofynnwch i’r disgyblion ystyried. 

  • “Pa ddigwyddiadau sydd ar ddod?” e.e. Nos Galan Gaeaf, ffair Nadolig. 
  • “Beth ydyn ni’n ei wneud yn dda?” 
  • “Sut allwn ni ddefnyddio’n sgiliau?” 
  • “Beth fuasai pobl yn hoffi ei brynu?” 

Gan weithio mewn grwpiau, gofynnwch i’r disgyblion feddwl am eu syniadau am gynnyrch neu wasanaeth. Cyn iddynt ddechrau creu syniadau, atgoffwch y disgyblion fod pob syniad yn dda, gorau pa mor greadigol y gallant fod. Efallai y byddant yn cyfuno syniadau yn y pen draw. 

Cofnodwch hoff syniad pob grwˆp a’u harddangos yn y dosbarth.

Gofynnwch i’r plant feddwl am a thrafod y syniadau cyn cytuno yn ddemocrataidd ar eu hoff syniad. 

Mae pob grwp o ddisgyblion yn cyflwyno eu syniad gorau i weddill y dosbarth gan roi’r rhesymau dros eu dewis. Oherwydd bod hwn yn gyfle da ar gyfer asesiad cymheiriaid gofynnwch i ddisgyblion eraill roi adborth adeiladol. 

Cynhaliwch bleidlais i gyrraedd penderfyniad y dosbarth am y cynnyrch / gwasanaeth gorau. 

Canlyniad dysgu 

Mae’r disgyblion yn gallu gweithio gydag eraill i greu amrediad o syniadau syml ar gyfer prosiect menter. 

Adnoddau sydd eu hangen 

  • Bwrdd gwyn rhyngweithiol 
  • Calendr ysgol 

Cwricwlwm ar gyfer Cymru 

1. Meysydd Dysgu a Phrofiad 

Iechyd a lles 

  • Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau a bywydau eraill. 

Gwyddoniaeth a Thechnoleg 

• Mae syniadau dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ateb gofynion ac anghenion cymdeithas. 

2. Sgiliau Trawsgwricwlaidd 

Llythrennedd 

Siarad 
  • Eglurder a geirfa 
  • Diben 
  • Ymddiddan cydweithredol 
  • Cwestiynu 
Gwrando 
  • Gwrando ar gyfer ystyr 
  • Gwrando ar gyfer deall 
  • Gwrnado fel rhan o ymddiddan cydweithredol
Download document: 20.69 KB, PDF

This file may not be fully accessible.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.