Case Study, Document

Gweithgaredd 11: Pa mor dda wnaethom ni?

Is Gynradd - Galluogi disgyblion i adolygu llwyddiant eu gweithgaredd menter

Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf: 12 Mai 2026
Download document: 17.94 KB, PDF

This file may not be fully accessible.

Amcan dysgu 

Galluogi disgyblion i adolygu llwyddiant eu gweithgaredd menter. 

Nodweddion Entrepreneuriaeth

 Agwedd 

Hunanhyder 

Cysylltiadau 

Cyfathrebu 

Gweithio gydag eraill 

Trafod, darbwyllo a dylanwadu 

Gweithgareddau dysgu 

Trafodwch ganlyniadau eu prosiect menter gyda’r disgyblion. 

  • “Pa mor llwyddiannus oeddem ni?” 
  • “Faint o gynnyrch wnaethom ni ei werthu?” 
  • “Faint o elw wnaethom ni?” 
  • “Beth wnaethom ddysgu?” 
  • “Beth wnaethom ni fwynhau fwyaf?” 
  • “Beth fuasem yn ei newid/yn ei wella erbyn y tro nesaf?” 

Mae hwn yn gyfle da i gynnal hunan asesiad ac asesiad cymheiriaid. Gofynnwch i’r disgyblion eraill roi adborth adeiladol. 

Gan ddefnyddio ffotograffau o’r prosiect menter, mae’r disgyblion yn creu cyflwyniad Y Criw Mentrus am eu menter i rannu eu canfyddiadau â’r dosbarth, a gweddill yr ysgol. Hysbyswch y rhieni trwy wefan yr ysgol ac/neu gylchlythyr. 

Dathlwch eu llwyddiant. 

Mae eich disgyblion yn awr yn Griw Mentrus! 

Canlyniad dysgu 

Mae’r disgyblion yn ystyried a gwerthuso eu menter. 

Adnoddau sydd eu hangen 

TGCh 

Cwricwlwm ar gyfer Cymru 

1. Sgiliau Trawsgwricwlaidd 

Llythrennedd 

Siarad 
  • Ymddiddan cydweithredol 
  • Cwestiynu
Gwrando 
  • Gwrando er mwyn deall 
  • Gwrando fel rhan o ymddiddan cydweithredol 

Cymhwysedd digidol 

  • Darganfod, chwilio a chynllunio cynnwys digidol 
  • Creu cynnwys digidol 
  • Gwerthuso a gwella cynnwys digidol
Download document: 17.94 KB, PDF

This file may not be fully accessible.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.