Amcan dysgu
Datblygu sgiliau mewn gwerthu eu cynnyrch neu wasanaeth.
Nodweddion Entrepreneuriaeth
Agwedd
- Hunanhyder
- Penderfyniad
Cysylltiadau
- Cyfathrebu
- Gweithio gydag eraill
- Trafod, darbwyllo a dylanwadu
Gweithgareddau dysgu
Mae’r disgyblion yn cynllunio’r trefniadau ymarferol ar gyfer eu prosiect menter ac yn cytuno ar, ac yn dyrannu tasgau.
Cyn gwerthu eu cynnyrch bydd angen i’r disgyblion:
- Gyfrifo faint a wariwyd ar wneud y cynnyrch
- Cyfrifo cost gwirioneddol pob eitem.
- Cyfrifo’r lleiafswm sydd angen ei godi er mwyn cadw o fewn cyllid
- Penderfynu ar bris rhesymol fydd yn rhoi elw iddynt
- Paratoi rhestr brisiau clir i arddangos i’w cwsmeriaid.
Mae’r disgyblion yn gwerthu eu cynnyrch neu’n cynnal eu gwasanaeth. Mae’r disgyblion yn cadw cofnod o’r gwerthiant, yr arian a dderbynnir a’r elw a wneir.
Mae’r disgyblion yn gwneud cofnod ffotograffig o’u prosiect menter.
Canlyniad dysgu
Bydd y disgyblion yn gallu cyflawni tasg syml mewn cydweithrediad ag eraill a gwneud cyfraniadau positif.
Adnoddau sydd eu hangen
- Cynnyrch
- Arian parod ar gyfer newid
- Til/ cofrestr arian syml
- Camera digidol
Cwricwlwm ar gyfer Cymru
1. Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Llythrennedd
Siarad
- Ymddiddan cydweithredol
- Cwestiynu
Gwrando
- Gwrando er mwyn deall
- Gwrando fel rhan o ymddiddan cydweithredol
Rhifedd
- Llythrennedd Rhifedd
Cymhwysedd Digidol
- Darganfod, chwilio a chynllunio cynnwys digidol
- Creu cynnwys digidol
- Gwerthuso a gwella cynnwys digidol
This file may not be fully accessible.