- Dyddiad y digwyddiad:
- Gweithdy
- Dyddiad ac amser:
- -
- Lleoliad:
- Gweminar ar-lein
Trosolwg o’r digwyddiad
Llwyddiant Dechrau Busnes: Yr Hanfodion
Hunangyflogedig, Cwmni Cyfyngedig, Unig Fasnachwr...gall penderfynu pa fath o berchennog busnes hoffet ti fod, deimlo’n gam brawychus. Gyda gofynion yswiriant, trethi, a chyfrifoldebau cadw cofnodion hefyd i’w hystyried, mae’n hawdd gweld pam nad yw rhai syniadau busnes gwych byth yn llwyddo’r tu hwnt i’r cam cynllunio.
Y newyddion da? Mae Syniadau Mawr Cymru yma i helpu.
Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i’th arwain drwy elfennau hanfodol dechrau busnes, gan roi i ti’r hyder a’r wybodaeth angenrheidiol i wireddu dy syniad. Drwy ddeall yr agweddau ymarferol o fod yn berchen ar fusnes o’r cychwyn cyntaf, byddi wedi dy baratoi’n well i wneud penderfyniadau gwybodus a sefydlu dy fusnes i lwyddo.
Erbyn diwedd y modiwl hwn, byddi’n:
- Deall y gwahanol strwythurau busnes ac yn adnabod pa opsiwn sy’n addas i ti.
- Cael dealltwriaeth glir o’r yswiriant a’r diogelwch fydd eu hangen ar dy fusnes o bosib.
- Canfod bod cyfrifoldebau ariannol a threth yn llawer llai brawychus na’r disgwyl.
- Dysgu pa gofnodion y bydd angen i ti eu cadw a pham fod sgiliau gweinyddol da’n allweddol i lwyddiant busnes.
- Derbyn tystysgrif cyflawni i’w hychwanegu at dy bortffolio Syniadau Mawr Cymru ac i ddathlu dy lwyddiant.
Mae dy daith dechrau busnes wedi hen gychwyn. Gad i ni osod y sylfeini ar gyfer llwyddiant gyda’n gilydd.
Amodau arbennig
Mae Syniadau Mawr Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Wrth gofrestru, trafodwch eich dewisiadau iaith gyda ni.
Dyddiad ac amser
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cost | Siaradwr | Manylion archebu |
|---|---|---|---|---|---|
| Maw, 6 Oct 2026 | 10:30yb - 11:30yb | Gweminar ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
Digwyddiadau diweddaraf
Etifeddiaeth i Arweinyddiaeth: Digwyddiad Entrepreneuriaeth a Grymuso Hanes Pobl Dduo
Yn barod i gymryd y cam cyntaf tuag at redeg eich busnes eich hun? Bydd y sesiwn hon yn symleiddio...
Cymerwch y cam cyntaf tuag at eich busnes eich hun gydag Academi Syniadau Mawr Cymru. Arweiniad...
Cymerwch y cam cyntaf tuag at eich busnes eich hun gydag Academi Syniadau Mawr Cymru. Arweiniad...