Pum Cyngor Doeth i Groesawu Technoleg Ddigidol yn rhan o’ch Busnes

Wrth i arloesi ym maes technoleg ddigidol barhau i drawsnewid y tirlun busnes cyfan, mae’n gallu bod yn anodd gwybod ble mae dechrau wrth fabwysiadu technolegau newydd yn eich busnes chi.

Dyma 5 cyngor doeth i helpu eich busnes i gyflawni mabwysiadu digidol:

Asesu’r prosesau y gellid eu gwella

Does dim rhaid i chi weddnewid holl swyddogaethau eich busnes o angenrheidrwydd, ond mae’n debygol bod rhai prosesau y gellid eu gwella, eu datblygu neu eu gwneud yn haws drwy fabwysiadu technolegau digidol. Dechreuwch drwy asesu cyflwr presennol eich busnes a dewis y meysydd yr hoffech eu datblygu.

Blaenoriaethu a threfnu

Ar ôl i chi ddiffinio’r meysydd i’w gwella, blaenoriaethwch y newidiadau mwyaf brys hyd at y rhai y gellir rhoi sylw iddynt yn ddiweddarach. Er bod technoleg ddigidol yn gallu gwneud tasgau’n haws a gwella cynhyrchiant, mae ceisio gweddnewid holl brosesau eich busnes ar yr un pryd yn gallu bod yn ormod o waith. Rhowch y newidiadau digidol ar waith fesul un. Er bod hyn yn gallu bod yn arafach, bydd yn rhoi amser i’ch busnes i addasu’n briodol a gweld newidiadau arwyddocaol.

Gwnewch eich gwaith ymchwil

Ar ôl i chi greu eich rhestr o flaenoriaethau, mae’n bwysig ymchwilio i'r dechnoleg sydd ar gael i helpu eich busnes neu aelodau penodol o staff. Mae Cyfeirlyfr Meddalwedd Cyflymu Cymru i Fusnesau yn ganllaw cynhwysfawr am ddim sy’n gallu eich helpu chi i wneud synnwyr o’r feddalwedd a allai wella sut rydych chi’n rheoli eich busnes. Llwytho eich canllaw am ddim i lawr nawr.

Cael y tîm i gefnogi

Y cam nesaf yw sicrhau bod eich tîm yn barod ar gyfer y newidiadau a fydd yn digwydd. Bydd cael eich tîm i gefnogi’n helpu i wneud y broses o drawsnewid digidol yn llawer haws gan eich bod yn debygol o wynebu llai o wrthwynebiad neu ddefnydd arafach o brosesau newydd. Gwnewch yn siŵr bod y staff yn ymwybodol o’r newidiadau sy’n digwydd a sut bydd yn effeithio ar eu prosesau gwaith. Ystyriwch y bydd rhaid i chi ddarparu hyfforddiant ar gyfer y rhai a fydd yn defnyddio’r technolegau newydd o bosib.

Monitro ac adolygu

Ar ôl i chi sefydlu eich meddalwedd newydd, mae’n bwysig cofnodi’r gwelliannau a monitro’r newidiadau sy’n digwydd o ganlyniad. Drwy adolygu pa mor effeithiol mae’r dechnoleg newydd wedi cael ei mabwysiadu, gallwch nid yn unig ystyried gwelliannau ychwanegol y gellir eu gwneud gyda’r dechnoleg arbennig honno (ac a yw wedi bod yn fuddsoddiad gwerth chweil), ond hefyd gallwch wneud buddsoddiadau pellach gyda dealltwriaeth well o’r broses.

Mae mwy o gyngor ymarferol ar gael i helpu eich busnes i fanteisio i’r eithaf ar y technolegau digidol sydd ar gael mewn gweithdy am ddim Gweithdy Ysbrydoli Gweithredu Cyflymu Cymru i Fusnesau. Cofrestrwch nawr!