Eich gweithwyr yw un o’ch asedau mwyaf. Felly, mae’n bwysig eu cymhell nhw.

Mae staff brwd yn nodweddiadol yn fwy cynhyrchiol, arloesol ac ymgysylltiedig â’r busnes

Mae hyn yn wych, nid yn unig ar gyfer morâl unigol a thîm, ond gall helpu i dyfu eich busnes hefyd.  

 

Mae technoleg ddigidol yn cynnig nifer o offer a llwyfannau a all eich helpu i ysbrydoli eich staff. Gall manteisio ar y llu o offer a llwyfannau sydd ar gael ar-lein helpu eich tîm i ddod yn fwy trefnus, cysylltiedig â chydweithwyr, canolbwyntio ar ddatblygiad personol a chysylltiedig â gweithgareddau’r busnes.

 

Rhannu a chydweithio

 

Gall offer cydweithio ar-lein sy’n caniatáu i staff weithio ar ddogfennau, ffeithiau a phrosiectau’n hawdd, a’u rhannu, helpu unigolion i gysylltu â'u cydweithwyr. Gall hyn eu helpu i deimlo’n rhan o dîm cydlynol, rhoi lle a chyfleuster iddynt i rannu eu syniadau a chael gwared ar y rhwystredigaethau  ynghylch gallu dosbarthu ffeiliau a gwybodaeth yn hawdd ymhlith cydweithwyr.

 

Dysgu a gweithio wrth fynd o gwmpas y lle

 

Gall technoleg ddigidol, fel apiau symudol a’r cwmwl, alluogi staff i fod yn fwy hyblyg o ran eu gwaith a’u datblygiad personol.  Mae’n bwysig trin staff fel unigolion a deall y gall fod ganddynt anghenion a chyfrifoldebau gwahanol. Gall dyfeisiau symudol a mynediad hawdd at ddogfennau trwy’r cwmwl ganiatáu i staff ddatblygu cydbwysedd gwaith a bywyd gwych. Gall cyfleoedd gweithio hyblyg gymell staff i fynd i’r afael â materion gwaith pwysig pa bynnag bryd y byddant yn digwydd, cymryd rhan mewn dysgu y tu allan i’r gwaith, cynyddu eu cynhyrchiant cyffredinol a gwneud iddynt deimlo’n aelod gwerthfawr o’r tîm.

 

Offer rheoli prosiect ar-lein

 

Gall offer rheoli prosiect ganiatáu i unigolion a thimau deimlo’n gyfrifol dros drefnu a dirprwyo llwythi gwaith ac allbynnau. Gall hyn helpu i gymell staff gan y gallant arwain ar eu gwaith, defnyddio eu menter eu hunain, a theimlo y gellir ymddiried ynddynt i gwblhau gwaith o ansawdd i derfynau amser. Gall rheolwyr adolygu’r cynnydd cyffredinol o hyd gan y byddant yn gallu monitro gweithgareddau a phrosesau heb fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol. Bydd trosolwg o holl gynnydd y staff a’r tîm hefyd yn caniatáu i chi roi adborth a chanmoliaeth fel y bo’n briodol, yn hytrach nag aros ar gyfer adolygiadau misol neu flynyddol.

 

Datblygu sianeli cyfathrebu clir

 

Gall offer cyfathrebu ar-lein ddatblygu sianeli clir ar gyfer cyfathrebu mewnol. Gall yr offer hyn, fel Skype for Business, ganiatáu i staff gyfathrebu’n effeithlon ynghylch prosiectau fel na fydd rhaid iddyn nhw aros am ymatebion neu chwilio trwy fewnflwch e-bost gorlawn. Gall cynnig dulliau hawdd i drafod materion, syniadau a gwaith gymell staff i fod yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon yn eu rolau. 

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen