Mae gennyf gefndir o weithio dros 30 mlynedd mewn sawl diwydiant gwahanol, megis y diwydiant dur ac adeiladu, electroneg, modurol, manwerthu, iechyd yn ogystal â’r diwydiant bwyd a diod.
Rwy’n arbenigo mewn datblygu busnes, ac rwyf wedi gweithio mewn swyddi gwerthu a rheoli prosiectau hyd at lefel cyfarwyddwr.
Rwy’n frwd dros bobl a chyflawni ansawdd a gwasanaeth fel rhan allweddol o lwyddiant.
Cefais nifer o flynyddoedd anodd, ond dysgais i lwyddo drwy wneud camgymeriadau, ac rwy’n awyddus i rannu fy ngwybodaeth.