Simon Drinkwater
Mae Simon Drinkwater yn arweinydd AD profiadol sy’n cael ei yrru gan werthoedd, ac sydd â thros ddau ddegawd o brofiad ymarferol, strategol a gweithrediadol ar draws amrywiol sectorau, gan gynnwys technoleg, gofal iechyd, addysg, gwasanaethau ariannol a gwasanaethau proffesiynol. Fel Aelod Siartredig o’r CIPD (MCIPD) mae Simon yn cyfuno sylfaen academaidd mewn Gweinyddu Busnes a Rheoli Adnoddau Dynol gydag achrediadau proffesiynol mewn Hyfforddi NLP, asesiadau deallusrwydd emosiynol, ac offer proffilio seicometrig (OPQ32, SHL). Mae ei yrfa yn cynnwys siapio a gweithredu strategaethau AD yn llwyddiannus ar gyfer amgylcheddau twf uchel a trawsffurfiadol fel ei gilydd. Mae ganddo hanes profedig o gyflawni mentrau sy’n creu traweffaith megis rhaglenni newid diwylliannol, fframweithiau datblygu talent, systemau rheoli perfformiad a dyfeisiadau newydd AD digidol. Mae ei gyflawniadau nodedig yn cynnwys arbedion costau sylweddol drwy fodelau recriwtio uniongyrchol, rhoi platfformau dysgu ‘Agile’ a datblygu ar waith, ac arwain ailstrwythuro strategol.
Cryfderau craidd Simon yw gallu dylanwadu ar uwch randdeiliaid a’u hyfforddi, arwain newid sefydliadol, a meithrin diwylliannau perfformiad uchel. Mae ei ddull o weithredu yn golygu ei fod yn effro iawn yn fasnachol a hefyd yn ffocysu llawer ar bobl - gan ddod â llonyddwch, persbectif a mymryn o hiwmor i sefyllfaoedd sy’n aml yn rhai cymhleth a heriol.
Ar gyfer perthynas fentora, mae Simon yn cynnig gwybodaeth arbenigol AD ac arweinyddiaeth, ffordd o feddwl bragmatig a dull cefnogol, ond gonest o weithredu. Mae ei werthoedd personol - ymddiriedaeth, gwytnwch a thwf parhaus - yn amlwg yn y modd y mae’n cefnogi eraill, gan feithrin amgylcheddau lle mae dysgu a pherfformio’n ffynnu. Mae ei brofiad ar draws amrywiol ddiwydiannau a chamau busnesau yn ei wneud yn arweinydd sy’n gallu addasu, a dangos empathi gyda mewnwelediadau sydd yn rhai strategol a hefyd yn seiliedig ar y byd go iawn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod i ble rydych chi’n ceisio mynd (Pwrpas, Gweledigaeth) hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod yn iawn sut i gyrraedd yno. Bydd y manylion ynghylch sut y byddwch yn cyrraedd yno yn dod yn fwy eglur cyn belled â’ch bod yn dechrau’r daith ac yn gwneud penderfyniadau’n gyson rydych chi’n credu y byddant yn cefnogi eich gallu i gyrraedd pen y daith.
Os ydych chi’n cymryd penderfyniad gwael, symudwch ymlaen, gwnewch benderfyniad arall, a dal ati i’w gwneud hyd nes ei bod yn teimlo fel y penderfyniad cywir. Peidiwch ag aros yn eich unfan.
Simon Drinkwater
-
EnwSimon Drinkwater
-
Enw'r busnesThe HR Partnership
-
RôlCyfarwyddwr cwmni/Sylfaenydd
-
LleoliadGaerdydd