BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Neil Hill

Caer Health Services

Cysylltu gyda Neil Hill


Neil Hill
Swyddogaeth:
MD & Owner
Sector:
Lleoliad:
Caerffili

Amdano

Perchennog busnes hynod brofiadol, mentor a hyfforddwr. Wedi gweithio ar hyd Ewrop a Gogledd America. Wedi byw yn San Francisco ac wedi gweithio yn Silicon Valley.

Rwyf yn berchen ar nifer o wahanol fathau o Fusnesau, Cwmni Iechyd Galwedigaethol, Cwmni Llesiant Corfforaethol, Cyfarwyddwr Angladdau a chrëwr cyntaf cadair gemau PC yn y DU wedi ei adeiladu gyda llaw a’i ddylunio’n ergonomig. Rwyf yn fuddsoddwr ac yn gyfranddaliwr ym Mragdy Caerdydd – Bragu Crafty Devil ac yn gyd-berchennog nifer o fariau cwrw wedi eu bragu, yng Nghaerdydd.

Gyda dros 400 awr o hyfforddi busnes wyneb yn wyneb drwy Ewrop a Gogledd America.

Rwyf wedi creu busnes o’r gwaelod ac wedi rheoli a rhedeg isadrannau cyllideb $300 miliwn, ac wedi hyfforddi, cynnal a datblygu timau a busnesau llwyddiannus.

Rwyf wedi cyrraedd ILM Lefel 7 yng nghymhwyster Hyfforddi a Mentora Prifysgol Cymru, mae gen i radd mewn Astudiaethau Busnes, rwyf wedi cyrraedd lefel 2 fel hyfforddwr Rygbi a lefel 1 fel dyfarnwr.

Rwy’n credu mewn creu amgylcheddau a phosibiliadau i bobl ffynnu

- Credwch ynoch chi eich hun – Meddyliwch yn ehangach a mentrwch – Dysgwch o brofiadau blaenorol – Amgylchynwch eich hun gyda phobl debyg i chi – Gweithiwch yn galed ac ymrwymwch i weithredoedd – ac yn bwysicach na dim, cynigiwch rywbeth yn ôl!

Gair i Gall

Credwch ynoch chi eich hun, rhowch amser a lle i chi eich hun gael meddwl a cheisiwch Fentor!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.