BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Natash Mason

Natasha Kennedy

Cysylltu gyda Natash Mason


Swyddogaeth:
Sylfaenydd / Cyfarwyddwr
Sector:
Lleoliad:
Flintshire

Amdano

Gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad entrepreneuraidd, rydw i wedi adeiladu ac ehangu nifer o fusnesau gwasanaeth yn y sector addysg a’r sector hyfforddi. Fi yw sylfaenydd The BLC Group, sy’n cynnwys ysgol hyfforddi TEFL, academi Sbaenaidd a achredir gan Instituto Cervantes, a phrifysgol ‘o bell’ ym Madrid sy’n cynnig cymwysterau mewn busnes a marchnata, a achredir gan Brydain a Sbaen.

Dechreuais fel entrepreneur solo ac rydw i’n deall yr heriau sy’n gysylltiedig â datblygu busnes o ddim. Heddiw, rydw i’n arwain tîm o 40 ac rydw i’n parhau i gefnogi entrepreneuriaid solo benywaidd trwy gyfrwng fy mrand mentora, NatashaKennedy.com, lle rydw i’n cynnig arweiniad busnes strategol sy’n canolbwyntio ar ehangu cynaliadwy, meithrin tîm a chreu gwaddol busnes.

Mae fy nghryfderau’n ymwneud â mireinio modelau busnes, strategaethau cynnwys, systemau dirprwyo, ac integreiddio offer AI (Deallusrwydd Artiffisial) er mwyn rhoi hwb i effeithlonrwydd ac arweinyddiaeth (yn enwedig o ran helpu menywod i deimlo’n gyfforddus i fynnu eu lle).

Rydw i’n enwog am fy arddull onest ac uniongyrchol – dim jargon na lol, dim ond cymorth doeth sy’n arwain at ganlyniadau.

Yn academaidd, mae gennyf LLB yn y Gyfraith o UCL, diploma mewn Hyfforddi a Datblygu o Brifysgol Middlesex, tystysgrif mewn Hyfforddi Niwroieithyddol a Gradd Meistr mewn Addysg Ddwyieithog o Universidad Europea Atlantico. Rydw i’n meddu ar EQA lefel 3.

Rydw i’n siarad yn rheolaidd ar bynciau fel entrepreneuriaeth, trawsnewid digidol, AI a menywod mewn busnes, ac rydw i wedi cymryd rhan mewn nifer o bodlediadau a phaneli.

Mae fy agwedd at fentora yn gydweithredol, yn strategol ac yn deilwredig. Rydw i’n mynd i gyfarfod â pherchnogion busnesau ac rydw i’n eu helpu i gamu’n hyderus i’r man y dymunant fod.

Gair i Gall

Mae dirprwyo effeithiol yn golygu mwy na throsglwyddo tasgau i bobl eraill – mae’n ymwneud ag arweinyddiaeth. Os ydych eisiau i’ch busnes ddatblygu, mae angen ichi ganolbwyntio ar feithrin ymddiriedaeth, gosod disgwyliadau clir a gollwng eich gafael ar reolaeth pan nad yw’n fuddiol mwyach.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.