- Swyddogaeth:
- Hyfforddwr pontio a grymuso
- Sector:
- Lleoliad:
- Carmarthenshire
About
Rwyf wedi bod yn Brif Weithredwr deirgwaith mewn Elusennau Trydydd Sector. Yn 2014, sefydlais fy elusen fy hun, My Sisters’ House Women’s Centre www.mysistershouse.info, a ddatblygodd o egin ar fy mwrdd cegin yn ganolfan cwbl weithredol yn cyflogi 26 aelod o staff, yn cefnogi dros 1,000 o ferched bob blwyddyn a chodi £3M i’w chynnal. Rwy’n meddu ar sgiliau sylweddol mewn perthynas â sefydlu a rheoli staff, profiad a sgiliau sylweddol yn y sector cam-drin domestig. Rwyf wedi llwyddo i sicrhau rhywun hynod enwog yn Noddwr. A minnau’n Hyfforddwr Pontio a Grymuso medrus, rwyf wedi cael hyfforddiant ystyriol o drawma ac rwy’n arbenigwr y Syndrom Impostor/Gorbryder Gweithredu Lefel Uchel a phopeth yn ymwneud â newid, colled a thrawsnewidiadau mewn bywyd.
Yn ogystal, rwy’n ymgynghorwr ar gyfer Merched mewn Busnes a’r Sector Elusennau.
Rwy’n hynod fedrus yn y sector merched, yn frwd drosto, ac yn awyddus i wneud cysylltiadau a manteisio ar fy sgiliau ar gyfer arweinwyr eraill y trydydd sector neu’r merched busnes llwyddiannus hynny sydd ag awydd dechrau prosiectau elusennol cymunedol.
Gair i Gall
Pan fyddwch chi’n gorfeddwl pethau, yn teimlo eich bod yn cael eich llethu. PEIDIWCH – y prif elyn yw oedi, felly rhaid i chi WEITHREDU – gwnewch hyn: ANADLWCH, SYMUDWCH, CYMERWCH ENNYD ac yna gofynnwch i chi’ch hun ….beth yw’r gwirionedd? Beth sy’n bwysig?