BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Janet Collins

LHP Accountants Ltd

Cysylltu gyda Janet Collins


Swyddogaeth:
Director/ACCA Accountant
Sector:
Lleoliad:
Carmarthenshire

Amdano

Siaradwr Cymraeg

Rwy’n gyfrifydd profiadol wedi fy lleoli yn Sir Gaerfyrddin, ac rwy’n helpu a chefnogi cwmnïau gyda’u hanghenion ariannol a threthiant.

Mae gennyf dros 30 mlynedd o brofiad, ac rwy’n sicrhau fy mod yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol i fusnesau a sefydliadau o bob maint.

Mae fy ngwaith yn amrywio o baratoi cyfrifon, i drethiant, PAYE, Treth ar Werth ac ystadau. Rwy’n gweithio gyda chwmnïau a sefydliadau o bob math, gan gynnwys cwmnïau cyfyngedig, unig fasnachwyr, partneriaethau ac elusennau sy’n golygu bod gennyf amrywiaeth eang o sgiliau a galluoedd.

Yn ogystal â threulio blynyddoedd yn gweithio gyda sefydliadau o bob maint, rwyf wedi bod yn ffodus i weithio gydag amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae hyn yn cynnwys, Amaethyddiaeth, Adeiladu, Gofal Iechyd, Ymgynghori a Manwerthu. Hefyd, rwyf wedi gweithio gyda nifer o fasnachau ac unig fasnachwyr gan gynnwys plymwyr, seiri coed, trydanwyr a gosodwyr carped.

Rwy’n Gyfarwyddwr yn LHP, ac o fewn y swydd hon mae’n rhaid i mi roi trefn ar lwyth gwaith a rheoli staff, ac rwy’n mwynhau hynny'n fawr.

Rwy’n rhugl yn y Gymraeg ac yn cydweithio â llawer drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n hynod o bwysig i’r busnesau rydym yn gweithio â nhw.

Rwyf hefyd yn Gynghorwr Cymuned, ac mae’n bwysig iawn helpu cymunedau lleol.

Gair i Gall

Cofiwch ofyn am gymorth ac arweiniad

Peidiwch â bod ofn technoleg newydd

Byddwch yn agored i syniadau newydd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.