Pwy rydyn ni'n chwilio amdano
Mae Mentora Busnes Cymru yn cynnig ffordd ystyrlon i weithwyr proffesiynol busnes profiadol roi'n ôl. Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi eraill, rhannu eich gwybodaeth a helpu busnesau Cymru i dyfu, gallai dod yn fentor gwirfoddol fod yn gyfle gwerth chweil i chi.
Mae ein mentoriaid fel arfer yn dod â:
- Profiad o amgylcheddau busnes bach neu fawr (e.e., profiad uwch reolwyr neu redeg busnes yn llwyddiannus
- Empathi i berchnogion busnes ac entrepreneuriaid, ac awydd gwirioneddol i gefnogi eraill.
- Cyfarwydd â'r mathau o heriau sy'n wynebu busnesau yng Nghymru.
- Sgiliau cyfathrebu cryf a'r gallu i adeiladu ymddiriedaeth.
- Parodrwydd i gwblhau proses sefydlu a chymryd rhan mewn datblygiad achlysurol.
Yr hyn y byddwch chi'n ei ennill fel mentor
Mae mentora yn ffordd werth chweil o rannu'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae rhai o'r manteision i fentoriaid yn cynnwys:
- Effaith go iawn – helpwch rywun i symud ymlaen gydag eglurder a hyder..
- Persbectif ffres – mae mentora yn aml yn hogi eich meddwl a'ch arweinyddiaeth eich hun.
- Twf proffesiynol – datblygu sgiliau hyfforddi a chyfathrebu.
- Hyblygrwydd – gwirfoddoli mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'ch amserlen.
- Cymuned – ymunwch â rhaglen gydnabyddedig gyda hyfforddiant, adnoddau a chymorth gan gymheiriaid.
- Rhoi yn ôl – cyfrannu at lwyddiant cymuned fusnes Cymru.
Beth mae'r rôl fentora yn ei olygu
Fel mentor, eich rôl yw cefnogi, datblygu a herio'r un rydych yn ei m/fentora yn adeiladol..
Ni fydd disgwyl i chi ddarparu ymgynghoriaeth arbenigol na chyngor rhagnodol. Yn lle hynny, byddwch yn cynnig gwybodaeth, yn gofyn cwestiynau da ac yn rhannu profiad perthnasol
Gall mentora ddigwydd ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb - beth bynnag sy'n gweithio orau i chi a'r un sy’n eich mentora.
Ymrwymiad a pharu
- Paru: Bydd eich cydlynydd mentora yn eich paru â pherson addas yn seiliedig ar sgiliau, profiad ac anghenion, a bydd yn hwyluso'r cyflwyniad a'r cyfarfod cyntaf.
- Hyd: Rydym fel arfer yn argymell perthynas fentora o 6–12 mis.
- Amlder a fformat: Mae amseru, fformat ac amlder y sesiwn yn hyblyg ac yn cael eu cytuno rhyngoch chi a'r un rydych yn ei m/fentora.
- Cefnogaeth: Bydd eich cydlynydd mentora ar gael trwy gydol eich perthynas fentora. Mae croeso i chi ein holi ar ôl eich cyfarfod cyntaf, neu ar unrhyw adeg, os ydych chi eisiau arweiniad neu gefnogaeth.
Sut rydyn ni'n cefnogi ein mentoriaid
Mae Busnes Cymru yn darparu:
- Cefnogaeth barhaus gan gydlynydd mentora ymroddedig.
- Cyfleoedd dysgu trwy sefydlu a datblygu.
- Rhwydweithio â mentoriaid eraill (gan gynnwys grŵp ar-lein caeedig).
Yn barod i wirfoddoli?
Os yw hyn yn swnio'n dda, gallwch ddechrau eich cais heddiw trwy glicio ar y botwm gwyrdd 'Dechrau Nawr' isod.