BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cwestiynau Cyffredin

Beth i'w ddisgwyl gan fentora ac a yw'n addas i fi?

Mae’r adran hon yn egluro manteision ymuno â’r rhaglen fentora ac yn ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin sydd gan bobl.

A oes angen talu am fentor?  

Na. Mae Mentoriaid Busnes Cymru yn gwirfoddoli eu hamser i gefnogi Busnesau Cymru.

Sut ydw i'n penderfynu a yw mentora yn iawn i mi a'm busnes?

Gall mentora fod yn ffynhonnell werthfawr o gefnogaeth ac arweiniad i fusnesau presennol. Er mai dim ond chi all benderfynu a yw'n addas, gall mentor fod yn arbennig o ddefnyddiol yn ystod cyfnodau o dwf, pan fydd gennych heriau newydd, neu pan fyddwch yn bwriadu cydgrynhoi a chryfhau eich busnes. Mae mentor yn dod â phrofiad, mewnwelediad, a phersbectif newydd i'ch helpu i symud ymlaen gyda hyder.

Rwy'n cael trafferth mewn meysydd penodol o'm busnes ac yn meddwl y buaswn yn elwa o gyngor arbenigol. A fydd mentor yn helpu gyda hyn?

Mae'n bwysig cofio nad ymgynghorwyr neu gynghorwyr arbenigol yw mentoriaid busnes. Ni fyddant yn cynnig cyngor busnes.
Os oes angen cyngor busnes neu gymorth arbenigol arnoch, yna cysylltwch â Busnes Cymru drwy ein hopsiwn 'cysylltu â ni'. 
Cysylltu â ni (trwy y ffurflen ‘Dechrau Arni’)

Beth all mentor busnes ei gynnig i chi?

Mae mentor busnes yn darparu gofod cefnogol, di-feirniadol i'ch helpu i dyfu'n bersonol ac yn broffesiynol. Yn hytrach na rhoi atebion uniongyrchol, bydd eich mentor yn:

  • Annog datrys problemau annibynnol trwy eich helpu i archwilio ystod o opsiynau ac ystyried dulliau amgen.
  • Cefnogi eich datblygiad personol trwy eich helpu i fagu sgiliau newydd, safbwynt newydd, ac ehangu eich gwybodaeth.
  • Gwella eich meddylfryd a'ch perfformiad trwy eich tywys i fabwysiadu agweddau ac ymddygiadau newydd sydd o fudd i chi a'ch busnes.
  • Grymuso eich penderfyniadau trwy eich helpu i fanteisio ar eich dyfeisgarwch eich hun - mae mentora yn ymwneud â chynnig persbectif, nid cynnig atebion.

Pwy fydd eich mentor? 

Bydd eich mentor yn weithiwr busnes proffesiynol profiadol gyda'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth i gefnogi'ch taith. Ar ôl i chi gofrestru gyda gwasanaeth Mentora Busnes Cymru, bydd un o'n cydlynwyr mentora ymroddedig yn cysylltu â chi i'ch paru â mentor.

Pryd fyddaf yn siarad â'm mentor?

Ar ôl i'r cydlynydd mentora eich paru â mentor, bydd y cydlynydd yn rhoi gwybod i chi ac yn trefnu amser cyfleus i'r ddau ohonoch gysylltu â'ch gilydd. 

Pa mor aml fyddaf yn cael cyswllt â fy mentor?

Mae i fyny i chi a'ch mentor unigol gytuno ar yr hyn sy'n gweithio orau i'r ddau ohonoch. Cofiwch fod ein mentoriaid yn gweithio yn wirfoddol. 

Pa mor hir fydd fy mherthynas fentora yn para?

Rydym fel arfer yn argymell i’ch perthynas bara am rhwng 6 a 12 mis. 
Mae hyd y berthynas yn wahanol i bawb, a bydd yn cael ei gytuno rhyngoch chi, eich mentor a'ch cydlynydd mentora.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.