William Winter

Winter yw Rheolwr Gyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Navitas, cwmni gweithgynhyrchu trydanol a dyfodd o ddalen wag o bapur i fod yn frand gwerth miliynau o bunnoedd o fewn ei flwyddyn gyntaf. Gyda thros deng mlynedd o brofiad yn y diwydiant trydanol, ynghyd â chefndir ym maes awyrofod, cyfanwerthu ac entrepreneuriaeth, mae William yn dod â chyfuniad unigryw o ddeallusrwydd masnachol, gweledigaeth greadigol ac ynni di-ball.
Mae ganddo BA a BSc mewn Rheoli Busnes o Brifysgol Swydd Gaerloyw. Roedd ei yrfa gynnar yn cynnwys amser yn gweithio gydag Ultra Electronics ac Edmundson William Electrical, lle bu iddo gael sylfaen gadarn mewn arweinyddiaeth a datblygu busnes. Mae wedi ennill gwobrau niferus, gan gynnwys Grad to Great Pareto, Gwobr Busnes Newydd Swydd Gaerloyw, Cyflenwr Newydd y Flwyddyn a Gwobr Gymunedol Peter Stradling.
Mae William yn chwarae ei ran yn ymarferol, ond mae’n gyson yn neilltuo amser er mwyn sefydlu cyfeiriad i’w dimau a’u halinio gyda’r weledigaeth ehangach. Ymysg ei brif gryfderau mae cynllunio strategol, datrys problemau, brandio, arweinyddiaeth a gwerthiant. Mae’n adnabyddus am arwain drwy esiampl a thrwy ymgymryd â phob penderfyniad gyda ffocws ar y cwsmer heb gyfaddawdu ar uniondeb masnachol y busnes.
Mae ei arddull o arweinyddiaeth yn seiliedig ar aliniad. P’un a ydynt yn gwsmeriaid, staff, neu bartneriaid busnes, mae’n gredwr cryf mewn cael pawb i symud i’r un cyfeiriad, ac o wneud hynny y bydd canlyniadau eithriadol yn dilyn. Mae wedi helpu busnesau i adfer o fethdaliad a’u troi yn weithrediadau sy’n torri pob record. Mae’n adeiladu timau cryf, yn creu profiadau cwsmer anhygoel, ac yn gwthio diwydiannau ymlaen drwy herio’r hyn sydd wastad wedi cael ei wneud.
Daw William â’r un meddylfryd i fusnes ag y mae athletwr proffesiynol yn ei wneud i chwaraeon. Safonau uchel, disgyblaeth ddyddiol a chred lwyr yn y genhadaeth. Y canlyniad yw creu diwylliant cwmni sy’n codi pobl i lefelau newydd neu sy’n eu hannog i gamu i’r ochr.
Yn fwy na dim, mae’n mwynhau’r daith ac mae’n arwain gyda phwrpas, eglurder a balchder ym mhopeth mae’n ei feithrin.

Gair i Gall

Y Daith yw’r Llawenydd.

William Winter
Win
  • Enw
    William Winter
  • Enw'r busnes
    Navitas Solutions Group Limited
  • Rôl
    Rheolwr gyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Pen-Y-Bont ar Ogwr