Suzi Park
Sefydlodd Suzi ei busnes cyntaf yng ngorllewin Cymru ym 1994, gan weithio o’i garej wedi’i addasu.
Aeth yn ei blaen i sefydlu dau fusnes arall, sef Prizma Embroidery ac, yn ddiweddarach, Make it in Wales. Erbyn heddiw, hi yw perchennog Gwlân Cambrian, ac mae’n cynnal cyrsiau crefft dan y brand Make it in Wales.
Bu’n un o Gyfarwyddwyr Cwmni Buddiannau Cymunedol (CBC) Make it in Wales am 8 mlynedd ac yn un o Gyfarwyddwyr CBC Gwlân Cambrian yr un pryd.
Dechreuodd ei gyrfa gynnar yng Nghanolbarth Lloegr yn yr 80au, ac ar ôl graddio o
Nottingham Trent fe weithiodd fel dylunydd dillad gwau i Jaeger, gan gydweithio â brandiau o'r radd flaenaf, fel Burberry, Aquascutum a Laura Ashley.
Wedi deng mlynedd o weithio yn y diwydiant tecstilau, symudodd i
orllewin Cymru, gan sefydlu busnes brodwaith digidol, yn cyflenwi brodwaith i’r farchnad ffrogiau priodas. Bu’r busnes yn gweithredu am fwy na 15 mlynedd.
Ochr yn ochr â hyn, bu Suzi’n cyflawni gwahanol swyddi yng Ngholeg Caerfyrddin,
gan gynnwys swydd darlithydd rhan-amser ar y cwrs BA Tecstilau Cyfoes. Wedi i’w busnes brodwaith gau, aeth ati yn y pen draw i redeg prosiectau wedi’u hariannu drwy gronfeydd Ewrop a Llywodraeth Cymru yn y coleg. Nod y prosiectau hyn oedd cefnogi’r diwydiant Ffasiwn a Thecstilau yng Nghymru. Tra’r oedd yn gweithio yn y coleg, fe luniodd radd sylfaen mewn Technolegau Tecstilau a chyflwyno’r radd honno, yn ogystal â rhedeg cynllun peilot Prentisiaeth mewn Ffasiwn.
Ar yr un pryd, roedd yn gweithio gyda Menter Mynyddoedd Cambria yn edrych ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer gwlân o Gymru. Bu’r prosiect yn llwyddiannus, ac ers iddo ddod i ben mae Gwlân Cambrian wedi bod yn gweithredu fel cwmni ar wahân, a Suzi sy’n rhedeg hwnnw ar ei phen ei hun.
Mae’r cwmni’n cyflenwi gwlân nyddiedig 100% wstid gradd fain o ardal Mynyddoedd Cambria, ar raddfa fasnachol ar ffurf edafedd gwehyddu a gwau a llaw, a hynny i farchnadoedd domestig a masnachol.
Mae Suzi’n awyddus i wneud yn fawr o’i hamrywiaeth o brofiadau gyrfaol fel Mentor i Busnes Cymru.
Daliwch ati i ddysgu ac uwchsgilio. Gorau arf, dysg!
Suzi Park
-
EnwSuzi Park
-
Enw'r busnesCambrian Wool (Make it in Wales)
-
RôlPerchennog
-
LleoliadSir Gaerfyrddin