Jason Curtis
Yn arweinydd profiadol a llwyddiannus, rwyf yn mwynhau heriau parhaus, ac yn ddiweddar rwyf wedi sefydlu fy musnes hyfforddiant ac ymgynghori fy hun - wedi tua 35 mlynedd mewn busnes, yn arwain timau at nodau llwyddiannus.
Rwyf wedi bod yn hynod ffodus i gael treulio 32 mlynedd o’m gyrfa yn y diwydiant gwasanaethau ariannol mewn corfforaethau rhyngwladol, 29 ohonynt gyda Atradius UK ym Mae Caerdydd. Yno, roeddwn yn gyfarwyddwr masnachol iddynt ar gyfer y DU yn genedlaethol, gyda thimau ledled y wlad cyn cael fy herwhela i swydd debyg yn Ninas Llundain. Ar ôl 3 blynedd yn Llundain, des yn ôl adref, gan fy mod eisiau cefnogi BBaCh ac ymddeolais o’m swydd flaenorol fel Rheolwr Gyfarwyddwr i BBaCh yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr i sefydlu Ymgynghoriaeth Busnes OFST o 01.02.2025.
Yn bersonol, rwyf yn briod gyda merch sydd bellach yn oedolyn, ac mae fy ngwraig a minnau wrth ein boddau yn teithio. India, Nepal a Bhutan yw ein cenhadaeth ‘ddiddorol’ nesaf - rwyf hefyd yn araf deg yn dysgu’r iaith Groeg, gan mai Cyprus fu ein dewis o wyliau dros yr 20 mlynedd neu fwy diwethaf. Rwyf wedi cwblhau dau farathon Llundain, a sawl hanner marathon, ac yn ôl yn hyfforddi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd yn nes ymlaen eleni. Hefyd rhoddais her i fi fy hun i ‘hedfan cyn fy mod yn 50’ - gan dderbyn fy nhrwydded beilot breifat a chyfran mewn awyren rai blynyddoedd yn ôl.
Delio â phobl ac ysbrydoli busnesau yw fy ngwir angerdd proffesiynol - ac nid yw'n syndod bod hyn eisoes wedi dod yn rhan bwysig o'r hyn y mae fy musnes fy hun yn ei wneud.
Os ydych yn credu yn eich angerdd, byddwch yn llwyddo. Gofalwch am eich cwsmeriaid a’ch marchnad darged, a byddant hwy yn gofalu amdanoch chi.
Jason Curtis
-
EnwJason Curtis
-
Enw'r busnesGwasanaethau Ymgyghori Busnes OFST
-
RôlSylfaenydd
-
LleoliadPen-Bont ar Ogwr