BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rhaglen wledig

Grantiau Bach - Creu Coetir

Mae'r cynllun yn darparu cymorth ariannol i blannu coed ar arwynebeddau llai o dir rhwng 0.1 a 2 hectar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf:
30 Hydref 2023
Cyllideb ariannu:
£3,000,000
Ffenestr EOI ar agor:
Ffenestr EOI yn cau:

Gall y plannu fod ar gyfer:

  • coed cysgodol
  • ar hyd cyrsiau dŵr
  • yng nghorneli caeau neu mewn caeau bach
  • mannau cysgodi stoc
  • bioamrywiaeth
  • tanwydd pren  

Mae'r cyfnod ymgeisio nesaf wedi agor ar ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023 ac yn cau ar 15 Medi 2023, a bydd grant gwerth cyfanswm o £3 miliwn ar gael. Gallwch ddod o hyd i'r holl ganllawiau a gwybodaeth gan gynnwys sut i wneud cais am y grant yma: https://www.llyw.cymru/grantiau-bach-creu-coetir

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.