BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rhaglen wledig

Grantiau Bach – Amgylchedd

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd – yn gynllun ar wahân i gynlluniau eraill ac yn cynnig uchafswm o £7,500 o gyllid fesul ffenest ar gyfer cynnal Prosiectau Gwaith Cyfalaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf:
30 Hydref 2023
Cyllideb ariannu:
£1,500,000
Ffenestr EOI ar agor:
Ffenestr EOI yn cau:

Mae rhestrau penodol o Waith Cyfalaf ar gael i helpu i sicrhau canlyniadau amgylcheddol llesol o dan y tair thema ganlynol:

  • carbon
  • dŵr
  • tirwedd a Phryfed Peillio

Bydd rownd hon y cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd yn canolbwyntio ar Dirwedd a Pheillwyr.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 24 Awst 2022 ac yn cau ar 5 Hydref 2022. Mae cyllideb o £1.5 miliwn wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod (ffenest) ymgeisio hwn.

Mae’r Thema Tirwedd a Phryfed Peillio yn cynnig Prosiectau Gwaith Cyfalaf sydd wedi’u ddewis am eu bod yn dod â budd eang a chyffredinol i’r amgylchedd ac am eu bod yn helpu i wireddu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i gynnal nodweddion traddodiadol y dirwedd ac yn cysylltu cynefinoedd er lles pryfed peillio. 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach ynglŷn â'r cynllun yn y ddau ddolen isod:

  1. https://gov.wales/small-grants-environment-general-rules-booklet-html
  2. https://gov.wales/small-grants-environment

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.