BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rhaglen wledig

Tyfu er mwyn yr amgylchedd

Mae Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gynllun grant sydd ar gael i bob ffermwr cymwys yng Nghymru. Mae'r cynllun yn cefnogi tyfu a defnyddio cnydau mewn ffordd sy’n gallu arwain at wella perfformiad amgylcheddol busnes fferm.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf:
26 Hydref 2023
Cyllideb ariannu:
£1,300,000
Ffenestr EOI ar agor:
Ffenestr EOI yn cau:

Amcanion y cynllun yw cefnogi ffermwyr i wneud y canlynol:

  • lleihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr.
  • addasu i newid yn yr hinsawdd a gwneud busnesau fferm yn fwy cadarn.
  • gwella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd.
  • cyfrannu at wyrdroi’r dirywiad ym mioamrywiaeth frodorol Cymru.

Mae cnydau a gweithgareddau a gefnogir drwy'r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd wedi cael eu nodi ymlaen llaw fel rhai sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r amgylchedd a’r busnes fferm.

Darllenwch y ddogfen rheolau a chanllawiau Tyfu er mwyn yr Amgylchedd cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Growing for the Environment rules and guidance

Please read the Growing for the Environment rules and guidance document before submitting an Expression of Interest (EoI).

Any changes will be publicised via the Welsh Government website, GWLAD online and, where necessary, we will contact you directly.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.