BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rhaglen wledig

Grantiau Bach – Amgylchedd (dŵr)

Mae cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd yn rhaglen o waith cyfalaf sydd ar gael i fusnesau ffermio ar draws Cymru er mwyn cynnal prosiectau fydd yn helpu i wella ansawdd dŵr alleihau perygl llifogydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Awst 2024
Diweddarwyd diwethaf:
20 Awst 2024
Ffenestr EOI ar agor:
Ffenestr EOI yn cau:

Bydd eitemau Gwaith Cyfalaf yn cael eu rhannu’n ‘Brif’ Waith a Gwaith ‘Ategol’. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ‘Prosiect’.

Bydd prosiect yn cynnwys:

  • Y Prif Waith Cyfalaf, i fynd i’r afael ag amcanion y thema
  • Y Gwaith Cyfalaf Ategol sy’n ei gwneud yn bosib cynnal y Prif Waith Cyfalaf e.e. Plannu Perth/Gwrych (opsiwn 900), yw’r Prif Waith Cyfalaf ond byddai codi ffens postyn a weiren (opsiwn 594) i ddiogelu’r berth rhag difrod yn Waith Cyfalaf Ategol Gorfodol, a byddai Gatiau Pren Caled (opsiwn 599) yn Waith Cyfalaf Ategol Opsiynol.

Mae’r Thema Dŵr yn cynnig Prosiectau Gwaith Cyfalaf sydd wedi’u dewis am eu bod yn dod â budd eang a chyffredinol i’r amgylchedd ac am eu bod yn helpu i wireddu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i wella ansawdd dŵr a lleihau perygl llifogydd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a sut i wneud cais yma: https://www.llyw.cymru/grantiau-bach-amgylchedd-dwr


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.