BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rhaglen wledig

Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau (ffenestr 2)

Amcanion y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau yw cefnogi buddsoddiadau i wella'r ffordd mae maethynnau'n cael eu rheoli ar ffermydd; diogelu a gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer; a gwella: 

  • effeithlonrwydd adnoddau ar y fferm
  • perfformiad technegol
  • y defnydd o dechnegol i wneud penderfyniadau rheoli
Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2024
Diweddarwyd diwethaf:
5 Awst 2024
Cyllideb ariannu:
£17,000,000
Ffenestr EOI ar agor:
Ffenestr EOI yn cau:

Mae'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau yn cefnogi buddsoddiadau mewn seilwaith a buddsoddiadau cyfalaf mewn offer a pheiriannau sydd wedi cael eu nodi ymlaen llaw i fynd i'r afael ag effaith llygredd ar y fferm, gan gynnig manteision clir ac amlwg i'ch busnes fferm a'r amgylchedd ehangach. 

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais yma: Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau (ffenestr 2): canllawiau [HTML] | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.