BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rhaglen wledig

Small Grants – Efficiency

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 16 Ionawr 2023 ac yn cau ar 24 Chwefror 2023. Mae cyllideb o £5.0m wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod (ffenest) ymgeisio hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf:
27 Hydref 2023
Cyllideb ariannu:
£5,000,000
Ffenestr EOI ar agor:
Ffenestr EOI yn cau:

 

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd – yn gynllun cyfalaf ar gyfer helpu ffermwyr yng Nghymru i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol eu busnesau fferm.

Y nodau yw buddsoddi mwy yn y fferm, gwella ei pherfformiad technegol, cynhyrchu yn fwy effeithiol ar y fferm, defnyddio adnoddau ar y fferm yn fwy effeithiol a defnyddio technoleg yn well i wella penderfyniadau rheoli.  

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd yn cefnogi buddsoddiadau cyfalaf mewn offer a thechnoleg sydd wedi’u nodi ymlaen llaw fel rhai sy’n cynnig manteision clir a mesuradwy i fusnes eich fferm.  Mae’r eitemau cyfalaf a’u cost wedi’u nodi.

Darllenwch ddogfen reolau’r cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd – a’r canllawiau cyn Datgan Diddordeb.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.