- Cyllideb ariannu:
- £1,000,000
- Ffenestr EOI ar agor:
- Ffenestr EOI yn cau:
Mae'r cynllun Datblygu Garddwriaeth yn gynllun grant Cyfalaf sydd ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru. Nod y cynllun yw:
- Cynorthwyo cynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol i ddatblygu eu busnesau drwy fuddsoddi mewn cyfarpar a thechnoleg newydd sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r busnes garddwriaethol.
- Galluogi busnesau garddwriaethol i ehangu cynhyrchiant yn gynaliadwy, arallgyfeirio i dyfu cnydau newydd, gwella effeithlonrwydd cynhyrchu a gwella ansawdd y cynnyrch.
- Galluogi cynhyrchwyr garddwriaethol i fynd i farchnadoedd newydd. Cynyddu cyflogaeth leol a chefnogi'r economi wledig fel rhan o'r adferiad gwyrdd o Covid-19.
Mae'r cynllun yn ddewisol. Byddai swm y grant a gynigir yn ymwneud ag amgylchiadau unigol, a bydd pob swm yn isafswm angenrheidiol i ganiatáu i'r buddsoddiadau fynd rhagddynt.
Gwneud cais yma: Cynllun Datblygu Garddwriaeth | Is-bwnc | LLYW.CYMRU
Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.