- Cyllideb ariannu:
- £1,500,000
- Ffenestr EOI ar agor:
- Ffenestr EOI yn cau:
Cynllun grant cyfalaf yw'r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol, sydd ar gael i ffermwyr ym mhob rhan o Gymru. Amcanion y cynllun yw:
- Helpu i sefydlu mentrau arallgyfeirio amaethyddol hyfyw newydd ar ffermydd
- Helpu i ddatblygu mentrau gwreiddiol neu arbenigol sy’n bod eisoes
- Gwneud amaethyddiaeth Cymru yn fwy cydnerth trwy ddatblygu ffrydiau incwm amrywiol
- Lleihau’r ddibyniaeth ar fentrau amaethyddol traddodiadol
- Ymateb i gyfleoedd mewn marchnadoedd newydd a datblygu marchnadoedd newydd.
Darllenwch ganllaw a llyfryn rheolau’r cynllun cyn cyflwyno cais.
Mae'r cynllun yn un dewisol. Bydd swm y grant a gynigir yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn, a bydd bob amser y swm lleiaf sydd ei angen i’r buddsoddiad allu mynd yn ei flaen. Os caiff eich cais ei ddewis, rhaid ichi gwblhau a hawlio’r holl eitemau Gwaith Cyfalaf erbyn 31 Mawrth 2024.
Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar Wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.