- Ffenestr EOI ar agor:
- Ffenestr EOI yn cau:
Mae’r Grant Creu Coetir ar gael ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein i ffermwyr a pherchenogion tir sydd â phlan ar gyfer creu coetir gafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cais llwyddiannus i’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir (WCPS). Fe welwch wybodaeth ynghylch sut i wneud cais i’r cynllun Cynllunio Creu Coetir yn: Cynllun Cynllunio Creu Coetir (ffenestr 4): llyfryn rheolau.
Mae’r canllaw hwn yn disgrifio’r Grant Creu Coetir. Darllenwch e’n ofalus. Os byddwch yn teimlo wedyn eich bod yn gymwys am gymorth y cynllun a’ch bod am wneud cais, darllenwch ‘Sut i Wneud Cais’ yn Adran E a’r llyfryn Grant Creu Coetir: gan defnyddio RPW Ar-lein i wneud cais.
Bydd Ffenest 4 yn agor ar 4 Mawrth 2024 ac yn cau ar 22 Tachwedd 2024. Bob mis, bydd RPW yn didoli’r ceisiadau fydd wedi dod i law, a bydd yn gwneud hynny am y tro cyntaf ar 24 Mawrth 2024.
I wneud cais am WCG erbyn 22 Tachwedd 2024, bydd angen i Lywodraeth Cymru fod wedi cael cadarnhad bod gennych blan wedi’i gymeradwyo gan CNC erbyn 8 Tachwedd 2024.
Bydd angen ichi fod wedi gwneud a hawlio’r holl waith plannu a chyfalaf erbyn 31 Mawrth 2025.
Rhaid plannu o leiaf 0.25ha o goetir cymeradwy. Nid oes uchafswm.
Mae arian ar gael ar gyfer pum categori o goetir, ffensys da byw a cheirw a gatiau.
Mae’r mesurau gwarchod sydd eu hangen ar y coed iddyn nhw allu cydio yn amrywio gan ddibynnu ar y safle lle maen nhw’n cael eu plannu. Weithiau, ni fydd angen llewys coed, ond os oes eu hangen, rydyn ni’n annog rheolwyr tir i ddefnyddio llewys sydd heb eu gwneud o blastig os bydd amodau’r safle’n caniatáu hynny.
Bydd angen i chi ystyried a oes yna goed ar gael ichi eu plannu wrth benderfynu a ddylech Ddatgan Diddordeb yn y Grant Creu Coetir.
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Bydd yr arian yn helpu ffermwyr i newid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd sydd yn yr arfaeth, gan y bydd coed a blennir nawr yn cyfrif at y Weithred Sylfaenol o ran gorchudd coed ar ffermydd yn yr SFS. Ni fydd anfantais o ran bod yn gymwys am yr SFS o fod wedi gwneud y gwaith plannu coed cyn dechrau’r cynllun.
Adran B: pwy sy’n gymwys
I fod yn gymwys am Grant Creu Coetir, rhaid bodloni’r canlynol:
- bydd gennych Blan Creu Coetir sydd wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynllun Cynllunio Creu Coetir ac sy’n cydymffurfio â Safonau Coedwigaeth y DU (UKFS)
- byddwch wedi cofrestru fel cwsmer gydag RPW ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN)
- byddwch yn ddeiliad tir cyhoeddus neu breifat neu’n gyngor neu’n gymdeithas, gan gynnwys grwpiau cymunedol sy'n plannu ar dir cyhoeddus. Rhaid bod gennych reolaeth lwyr ar y tir
- bydd eich landlord wedi rhoi ei ganiatâd i chi ymuno â’r cynllun os ydych chi'n gwneud cais fel tenant
- bydd landlordiaid yn cael gwneud cais am y grant os gallan nhw brofi bod ganddyn nhw reolaeth lwyr ar y tir. Ni fydd landlordiaid yn cael gwneud cais am arian ar unrhyw dir sydd, neu sydd wedi bod, yn destun anghydfod ynghylch ei denantiaeth yn y 12 mis diwethaf
Pwy sy’n gymwys:
- dim ond darnau o dir sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer eu plannu a’u ffensio gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynllun Cynllunio Creu Coetir fydd yn gymwys
- rhaid i’r cais olygu plannu o leiaf 0.25ha o goetir cymeradwy
- rhaid i’r cais gynnwys y gwaith ffensio sydd wedi’i gymeradwyo i sicrhau bod da byw yn cael eu cadw allan o’r safle plannu newydd
- ni chaniateir newid safle plannu cymeradwy cyn gwneud cais am grant os gallai’r newid effeithio ar y safle sydd wedi’i gymeradwyo
- os ydych ond yn plannu cyfran o’ch plan, rhaid i chi sicrhau bod y caeau sydd wedi'u cynnwys yn eich Datganiad o Ddiddordeb yn dal i gydymffurfio â manyleb yr Opsiwn Creu Coetir hwnnw