BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

RDG 2014 - 2020

Roedd rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymunedau Gwledig, Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, yn cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau sydd â'r nod o wella cynaliadwyedd a chryfhau gwytnwch ein hamgylchedd naturiol, y sector seiliedig ar y tir, busnesau bwyd, a hefyd ein cymunedau. 

Roedd yn cynnwys:

  • Gwella sgiliau, hyrwyddo arloesi, a chryfhau dulliau o drosglwyddo gwybodaeth 
  • Creu a diogelu swyddi
  • Gwella canlyniadau amaeth-amgylcheddol
  • Cynnal coetiroedd a choedwigoedd
  • Cynyddu bioamrywiaeth
  • Cefnogi a hybu effeithlonrwydd adnoddau
  • Datblygu a darparu gwasanaethau ecosystem
  • Cefnogi datblygu cymunedol
  • Gwella iechyd a lles anifeiliaid
  • Arafu newid yn yr hinsawdd, ac addasu iddo

Pam oedd angen inni fonitro a gwerthuso? 

Roedd y prosesau monitro a gwerthuso yn brosesau pwysig ar gyfer asesu pa mor llwyddiannus oedd y Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghymru a sut mae'n cael ei gweithredu. Mae'n hanfodol sicrhau bod systemau monitro a gwerthuso trylwyr a phriodol ar waith i'n helpu i ddeall pa mor llwyddiannus yw'r canlyniadau a'r cynhyrchion, ac i helpu i asesu effeithiau.

Pwy oedd yn gyfrifol am y gwaith monitro a gwerthuso?

Ymgeiswyr prosiectau a Llywodraeth Cymru.  

Roedd ymgeiswyr prosiectau'n gyfrifol am adrodd ar lwyddiannau eu prosiectau a'r data allweddol angenrheidiol. Y Tîm Strategaeth yn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) roedd yn gyfrifol am fonitro a gwerthuso ar lefel y rhaglen. Oedd hynny'n cynnwys coladu data monitro ar lefel y rhaglen ar gyfer cwblhau'r Adroddiadau Gweithredu Blynyddol. Roedd y Tîm Strategaeth hefyd yn gyfrifol am reoli gwerthusiadau ar lefel rhaglen a chynllun, yn ogystal â rhoi cyngor ac yn ateb cwestiynau monitro a gwerthuso sy'n ymwneud â'r rhaglen. Roedd hynny'n cynnwys darparu cymorth mewn perthynas â chasglu data, sut mae diffinio dangosyddion, a llunio manylebau gwerthuso. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.