BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymuno ag Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn rhoi’r hyder a’r sgiliau i’r ffermwr ifanc, Cian Iolen Rhys, droi dyheadau’n realiti!

Mae sefydlu a datblygu busnes newydd llwyddiannus yn freuddwyd yn unig i lawer. Dywed y ffermwr ifanc Cian Iolen Rhys fod Academi Amaeth Rhaglen yr Ifanc a gynhelir gan Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r hyder a’r sgiliau bywyd iddo wneud hynny – ac yntau ond yn 17 mlwydd oed! Ynghyd â’i ffrind Owain, mae Cian wedi sefydlu busnes contractio lleol sy’n darparu gwasanaeth cneifio, ac sydd bellach yn gwasanaethu 17 fferm leol.
Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mai 2025
Diweddarwyd diwethaf:
6 Mai 2025
Cian Iolen Rhys

Ni fyddem wedi cyrraedd y fan yma heb yr hyder, y sgiliau, y ffrindiau newydd a’r rhwydweithiau cefnogi a gefais drwy’r rhaglen Academi Amaeth, ac rydw i mor ddiolchgar am y cyfle.

Mae Cian yn ffermio ochr yn ochr â’i dad a’i frawd iau ar fferm bîff a defaid 150 erw sy’n berchen i’r Cyngor Sir ger Bethesda. Mae’r myfyriwr amaeth ail flwyddyn yng Ngholeg Glynllifon yn cyfuno ei ymrwymiadau coleg gyda bod yn aelod gweithgar o CFfI Dyffryn Ogwen, chwarae rygbi, a chanu, ac mae hefyd wedi ennill gwobrau mewn cystadlaethau cneifio â llafn.  Mae’n gweithio rhan amser i ffermwyr lleol ac mae wedi cael gwahoddiad i Wlad yr Haf ac Ucheldir yr Alban ar gyfer profiad gwaith yn ystod y gwanwyn hwn. 

Mae angen dewrder i roi cynnig ar unrhyw beth newydd, ond cefais gymaint o ysbrydoliaeth gan y ffermwyr a’r mentoriaid a gwrddais drwy’r Academi Amaeth fel nad oes diwedd i’m disgwyliadau o’r hyn y gallaf ei gyflawni! Ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r hyfforddiant ar y cyfryngau - gwych!

Fe wnaethom ni ymweld ag ystod o fusnesau fferm ysbrydoledig ledled Cymru ynghyd â thaith astudio i Norwy, gan roi cipolwg gwahanol i mi ar wahanol agweddau ar iechyd anifeiliaid, busnes a rheolaeth ariannol, ynghyd â phwysigrwydd defnyddio technoleg.

Dywed Cian fod llawer o’r hyn a ddysgodd drwy’r rhaglen Academi Amaeth bellach ar waith ar y fferm gartref.

Rydym wedi sefydlu system bori stribedi ‘techno grazing’, gan ddefnyddio ffensys trydan i symud y gwartheg bob dau ddiwrnod i wneud gwell defnydd o’n tir, ac rydym hefyd wedi buddsoddi mewn bolysau mwynau sydd wedi gwella cyflwr a chanrannau ffrwythlondeb y mamogiaid. 

Mae’r Academi Amaeth wedi dangos i mi fod angen gweithio’n galed, bod yn agored i syniadau newydd a dysgu gan eraill er mwyn llwyddo!

Mae gweithio’n gynnar yn y bore, yn hwyr gyda’r nos, ar benwythnosau a thrwy gydol gwyliau o’r coleg yn arferol i mi,” meddai Cian, ond mae’n amlwg na fyddai’n newid dim o hyn, gan ei fod, yn ei eiriau ei hun, yn credu bod y cymorth datblygu personol a’r hyfforddiant a ddarperir drwy raglen Cyswllt Ffermio yn ei helpu i gyflawni ei nodau, ac maent yn bendant wedi helpu i ehangu ei orwelion o ran ei yrfa at y dyfodol!

Fel un sydd wedi dilyn esiampl dda ei dad sy’n gweithio llawn amser mewn swydd oddi ar y fferm, mae Cian yn uchelgeisiol, yn benderfynol ac yn weithiwr caled – a chafodd y rhinweddau hyn eu cydnabod yn ddiweddar wrth iddo ddod yn gydradd ail yn y gystadleuaeth Dysgwr Ifanc y Flwyddyn yn y categori dan 20 yng ngwobrau Lantra Cymru.

Dywed mai ei uchelgais mewn bywyd yw ‘bod yn hapus a pharhau i fwynhau’r hyn yr ydw i’n ei wneud’. Mae wedi gosod ei fryd ar y brifysgol neu brentisiaeth ac mae’n gobeithio gwireddu ei freuddwyd ers iddo fod yn blentyn o fod yn arwerthwr da byw ochr yn ochr â chneifio llafn cystadleuol a rhedeg ei fusnes ei hun. Mae’n swnio fel llawer iawn o waith, ond o ystyried yr hyn y mae wedi’i gyflawni hyd yma, mae dyfodol disglair o flaen y ffermwr ifanc uchelgeisiol hwn.   

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer yr Academi Amaeth – Rhaglen yr Ifanc ar agor tan 20 Mai. 

Peidiwch ag oedi, cyflwynwch eich cais – dyma gam pwysig sydd ei angen ar ffermwyr ifanc! 

Meddai Cian.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.