
Ni fyddem wedi cyrraedd y fan yma heb yr hyder, y sgiliau, y ffrindiau newydd a’r rhwydweithiau cefnogi a gefais drwy’r rhaglen Academi Amaeth, ac rydw i mor ddiolchgar am y cyfle.
Mae Cian yn ffermio ochr yn ochr â’i dad a’i frawd iau ar fferm bîff a defaid 150 erw sy’n berchen i’r Cyngor Sir ger Bethesda. Mae’r myfyriwr amaeth ail flwyddyn yng Ngholeg Glynllifon yn cyfuno ei ymrwymiadau coleg gyda bod yn aelod gweithgar o CFfI Dyffryn Ogwen, chwarae rygbi, a chanu, ac mae hefyd wedi ennill gwobrau mewn cystadlaethau cneifio â llafn. Mae’n gweithio rhan amser i ffermwyr lleol ac mae wedi cael gwahoddiad i Wlad yr Haf ac Ucheldir yr Alban ar gyfer profiad gwaith yn ystod y gwanwyn hwn.
Mae angen dewrder i roi cynnig ar unrhyw beth newydd, ond cefais gymaint o ysbrydoliaeth gan y ffermwyr a’r mentoriaid a gwrddais drwy’r Academi Amaeth fel nad oes diwedd i’m disgwyliadau o’r hyn y gallaf ei gyflawni! Ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r hyfforddiant ar y cyfryngau - gwych!
Fe wnaethom ni ymweld ag ystod o fusnesau fferm ysbrydoledig ledled Cymru ynghyd â thaith astudio i Norwy, gan roi cipolwg gwahanol i mi ar wahanol agweddau ar iechyd anifeiliaid, busnes a rheolaeth ariannol, ynghyd â phwysigrwydd defnyddio technoleg.
Dywed Cian fod llawer o’r hyn a ddysgodd drwy’r rhaglen Academi Amaeth bellach ar waith ar y fferm gartref.
Rydym wedi sefydlu system bori stribedi ‘techno grazing’, gan ddefnyddio ffensys trydan i symud y gwartheg bob dau ddiwrnod i wneud gwell defnydd o’n tir, ac rydym hefyd wedi buddsoddi mewn bolysau mwynau sydd wedi gwella cyflwr a chanrannau ffrwythlondeb y mamogiaid.
Mae’r Academi Amaeth wedi dangos i mi fod angen gweithio’n galed, bod yn agored i syniadau newydd a dysgu gan eraill er mwyn llwyddo!
Mae gweithio’n gynnar yn y bore, yn hwyr gyda’r nos, ar benwythnosau a thrwy gydol gwyliau o’r coleg yn arferol i mi,” meddai Cian, ond mae’n amlwg na fyddai’n newid dim o hyn, gan ei fod, yn ei eiriau ei hun, yn credu bod y cymorth datblygu personol a’r hyfforddiant a ddarperir drwy raglen Cyswllt Ffermio yn ei helpu i gyflawni ei nodau, ac maent yn bendant wedi helpu i ehangu ei orwelion o ran ei yrfa at y dyfodol!
Fel un sydd wedi dilyn esiampl dda ei dad sy’n gweithio llawn amser mewn swydd oddi ar y fferm, mae Cian yn uchelgeisiol, yn benderfynol ac yn weithiwr caled – a chafodd y rhinweddau hyn eu cydnabod yn ddiweddar wrth iddo ddod yn gydradd ail yn y gystadleuaeth Dysgwr Ifanc y Flwyddyn yn y categori dan 20 yng ngwobrau Lantra Cymru.
Dywed mai ei uchelgais mewn bywyd yw ‘bod yn hapus a pharhau i fwynhau’r hyn yr ydw i’n ei wneud’. Mae wedi gosod ei fryd ar y brifysgol neu brentisiaeth ac mae’n gobeithio gwireddu ei freuddwyd ers iddo fod yn blentyn o fod yn arwerthwr da byw ochr yn ochr â chneifio llafn cystadleuol a rhedeg ei fusnes ei hun. Mae’n swnio fel llawer iawn o waith, ond o ystyried yr hyn y mae wedi’i gyflawni hyd yma, mae dyfodol disglair o flaen y ffermwr ifanc uchelgeisiol hwn.
Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer yr Academi Amaeth – Rhaglen yr Ifanc ar agor tan 20 Mai.
Peidiwch ag oedi, cyflwynwch eich cais – dyma gam pwysig sydd ei angen ar ffermwyr ifanc!
Meddai Cian.