Gall pwysau ariannol diweddar a rheoliadau amgylcheddol erydu maint yr elw yn gyflym,
Meddai Menna Williams o Cyswllt Ffermio.
Mae sgorio cyflwr y corff yn arf syml, cost-effeithiol y gall ffermwyr ei ddefnyddio i wella iechyd a chynhyrchiant mamogiaid, gan arwain at ddiadell fwy cynaliadwy a phroffidiol.
Bydd Nerys Wright, ymgynghorydd defaid gyda bron 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant amaeth, yn ymuno â Cyswllt Ffermio. Mae Nerys yn pwysleisio pwysigrwydd BCS.
Mae deall BCS yn galluogi ffermwyr i wella iechyd a pherfformiad mamogiaid, gan arwain at well pwysau ŵyn wrth ddiddyfnu a hirhoedledd mamogiaid.
Bydd y digwyddiadau’n archwilio canfyddiadau astudiaeth PhD bedair blynedd Nerys a ariannwyd gan AHDB; ymchwiliodd yr astudiaeth i’r berthynas rhwng BCS mamogiaid a gwahanol fetrigau perfformiad, gan gynnwys pwysau ŵyn wrth ddiddyfnu a chynhyrchiant mamogiaid.
Bydd Pwyntiau Trafod Allweddol yn cynnwys effaith BCS ar Berfformiad Diadelloedd, meistroli Graddfa 5 Pwynt BCS, a Thargedau BCS Drwy gydol y Flwyddyn: BCS mamogiaid o hwrdda i sganio ac ŵyna i ddiddyfnu.
Bydd ffermwyr hefyd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol a fydd yn cynnig cyfle dysgu ymarferol iddynt; yn y sesiynau hyn, byddant yn cael asesu sgôr cyflwr y mamogiaid eu hunain a gofyn cwestiynau.
Trwy gymryd rhan mewn sesiwn ryngweithiol ac adnewyddu eich dull sgorio BCS, byddwch yn ennill sgiliau ymarferol i’w cymhwyso’n uniongyrchol ar eich fferm chi,
Meddai Nerys.
Cynhelir y digwyddiadau ledled Cymru ym mis Tachwedd 2024:
- Dydd Mawrth, 19 Tachwedd (19:30-21:00): Mart Ffermwyr Rhuthun, Parc Glastir, Rhuthun, LL15 1PB
- Dydd Mercher, 20 Tachwedd (11:30-13:00): Fferm Blaencennen, Gwynfe, Llangadog, SA19 9RT (Cyfle asesu BCS ymarferol ar y fferm)
- Dydd Mercher, 20 Tachwedd (19:30-21:00): Clwb Golff Maesteg Golf, Mt Pleasant, Heol Castell-nedd, Maesteg CF34 9PR
I gael rhagor o wybodaeth neu i neilltuo eich lle, cysylltwch â Menna Williams ar menna.williams@mentera.cymru