Dychwelodd cyn-newyddiadurwr y BBC i fferm Pantyfen Uchaf, sef fferm 200 erw ei theulu sydd ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, i barhau â gwaith ei thad, John Edwards.
Drwy gydol ei flynyddoedd lawer o ofalu am y fferm, mae wedi gweld gwerth mawr mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol, gan blannu 2,000 o goed brodorol a rheoli 1.5 milltir o dorlan ar hyd yr Afon Teifi.
Mae Sara’n rhannu ei angerdd tuag at fyd natur a’r amgylchedd, ond hi yw’r gyntaf i gyfaddef mai’r hyn nad oedd ganddi pan ymgymerodd â’r gwaith o reoli’r fferm oedd gwybodaeth ymarferol ei thad.
“Sylweddolais i gyn lleied roeddwn i’n ei wybod am sut roedd pethau’n gweithio, ond yr hyn roeddwn i’n ei wybod oedd faint roeddwn i am ei ddysgu,’’ meddai.
Cafodd y bwlch hwnnw ei bontio’n gyflym diolch i raglen Fentora Cyswllt Ffermio.
Mae'r cynllun yn galluogi ffermwyr a choedwigwyr i gael cymorth ac arweiniad gan eu cymheiriaid ar ystod eang o bynciau.
Y mentor a gafodd Sara oedd ei chymydog agos, Ioan Williams, sydd wedi gwneud gwaith amgylcheddol sylweddol ar ei fferm ei hun, gan gynnwys cilometrau lawer o adfer gwrychoedd a ffensys dwbl, plannu coed a ffensio coridorau ar lan nentydd.
Gyda’i gymorth a’i arweiniad ers mis Medi 2020, mae Sara wedi plannu gwrychoedd a blociau bach o goetir a gwrychoedd wedi’u tocio.
“Y llynedd fe wnaethom gynnal rhaglen o docio gwrychoedd a llenwi bylchau a gwnaethon ni ail-greu un o’r caeau gwreiddiol,” eglura Sara.
O'u cyfarfod cyntaf un, mae hi wedi teimlo bod ei hyder yn cynyddu. “Mae Ioan wedi cerdded drwy’r fferm gyda fi ac mae fy sgiliau arsylwi wedi gwella dan ei arweiniad. Mae wedi fy ngwneud i’n fwy ymwybodol o'r posibiliadau.
Mae dealltwriaeth gynhwysfawr Ioan o gynlluniau amaeth-amgylcheddol hefyd wedi helpu Sara gyda’i cheisiadau am fentrau gan gynnwys cynllun Grantiau Bach Glastir, Cynllun Cynefin Cymru a, gydag un llygad ar y dyfodol, gyda’i dealltwriaeth o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.
“Os ydw i’n betrusgar ynglŷn â gwneud cais am gynllun penodol, bydd Ioan yn fy annog i gwestiynu beth rydw i am ei gyflawni, ac yn rhoi’r dewrder i mi ymgymryd â’r cynlluniau cywir ar gyfer ein fferm, ac rydw i’n parhau â’r hyn mae fy nhad wedi’i wneud erioed; mae bob amser wedi bod yn awyddus i blannu yma, a gosod blychau nythu.
“Erbyn hyn, fi yw’r un sy’n gwneud y pethau hyn yn gorfforol ac sy’n diogelu’r fferm at y dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae’n deimlad braf iawn gweld y fferm mewn sefyllfa gadarn wrth helpu’r amgylchedd ac annog mwy o fywyd gwyllt ar yr un pryd.”
Roedd cofrestru ei diddordeb gyda rhaglen Fentora Cyswllt Ffermio yn benderfyniad da, meddai.
“Mae’n deimlad da, teimlo’n gysylltiedig â Cyswllt Ffermio; mae’n sicr wedi fy ngwneud i’n ymwybodol o ba fath o bethau y gallwn ni fod yn rhan ohonynt.
“Fel ffermwyr, rydyn ni i gyd ar daith, rydyn ni i gyd yn dysgu, ac mae cymaint y gallwn ni ei ennill o’r gwasanaethau y gall Cyswllt Ffermio eu darparu.”