BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae'r frwydr wedi dechrau am le hynod gystadleuol yn yr Academi Amaeth eleni – ai 2025 yw eich blwyddyn chi?

Mae gan yr Academi Amaeth, a lansiwyd yn 2012, bellach dros 300 o gyn-fyfyrwyr, pob un yn falch o fyfyrio ar yr amser a dreuliwyd ar raglen breswyl datblygiad personol flaenllaw Cyswllt Ffermio fel profiad amhrisiadwy. Mae rhai hyd yn oed yn ei alw'n drawsnewidiol. Mae'n hysbys bod ei dull yn meithrin cyfeillgarwch dwfn ac yn tanio syniadau busnes a all hyd yn oed newid cwrs eich gyrfa.
Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mai 2025
Diweddarwyd diwethaf:
6 Mai 2025
Delwedd o Academi Amaeth 2024

Wedi’u rhannu’n ddwy garfan, nod yr Academi Amaeth ac Academi'r Ifanc yw ysbrydoli a rhoi’r hyn sydd ei angen ar y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ffermio yng Nghymru. Mae Academi’r Ifanc wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion rhwng 16 a 21 oed sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa neu sefydlu busnes yn y diwydiannau bwyd neu ffermio.
Oes gennych chi uchelgeisiau mawr ond angen help i benderfynu pa lwybr i'w ddilyn? Hoffech chi fagu hyder, datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth i gyflawni eich potensial fel unigolyn?

Mae 24 lle y mae galw mawr amdanynt ar gael ar gyfer dosbarth 2025, ac mae’r rhaglen eleni yn addo mynd â’i haelodau i dir newydd, gyda’r grŵp hŷn yn mentro i Japan!

Mae’r Academi Amaeth yn darparu rhaglen ysbrydoledig o hyfforddiant, mentora, cymorth ac arweiniad dros 3 sesiwn breswyl ddwys, gan gynnwys ymweliad astudio dramor.

Drwy greu’r amodau perffaith ar gyfer twf personol, mae’r Academi Amaeth wedi rhoi’r hyder i lawer o’i chyn-fyfyrwyr anelu’n uchel. Mae’r rhaglen yn gyfle i rannu syniadau a dysgu oddi wrth ein gilydd, i greu cysylltiadau newydd a datblygu rhwydweithiau a fydd yn agor drysau ac yn creu cyfleoedd.

Y llynedd, fe wnaethom ddenu’r nifer mwyaf erioed o geisiadau”, meddai Einir Davies, Pennaeth Sgiliau Mentera, sy’n darparu rhaglen Cyswllt Ffermio. “Nid oeddem am i Academi Amaeth 2025 fod yn wahanol ac rydym yn falch o allu cynnig cyfle unigryw, i grŵp arall o ffermwyr. Byddwn yn annog pawb sy’n gymwys ac yn gallu rhoi eu hymrwymiad, eu hamser a’u hegni llawn i’r rhaglen i wneud cais heddiw am y cyfle hwn y mae galw mawr amdano. Nawr yw eich amser.

Mae'r ffenestr ymgeisio eleni yn fyrrach nag arfer, felly peidiwch â cholli'r cyfle! Agorodd y ffenestr ymgeisio ddydd Llun 28 Ebrill 2025 a bydd yn cau dydd Mawrth 20 Mai 2025.

Am ragor o wybodaeth am raglen yr Academi Amaeth 2025, yr hyn y mae'n ei chynnwys, y dyddiadau a'r lleoliadau hollbwysig, y meini prawf cymhwysedd ac i lawr lwytho ffurflenni cais, cliciwch yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.