BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae arolygon cynefinoedd naturiol a choetir yn dangos pam mae angen asesiad gwaelodlin ar bob fferm

Mae cipolwg ar y coetir, gwrychoedd a bioamrywiaeth sy'n bresennol ar ffermydd Cymru wedi datgelu dosbarthiad cymysg o gynefin naturiol, gyda chanran uchel o gynefin ar dir rhai ffermydd, tra bod llai gan ffermydd eraill.
Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2025
Diweddarwyd diwethaf:
14 Awst 2025
Delwedd yn dangos coed a pheiriannau

Mae'r amrywioldeb hwn yn tanlinellu'r angen hanfodol i bob fferm gomisiynu arolwg gwaelodlin i gael dealltwriaeth fanwl o'i sefyllfa ei hun.

Cynhaliodd Cyswllt Ffermio arolwg o 15 fferm cynhyrchiol, gweithredol yn ei rwydwaith Ein Ffermydd.

Er mwyn helpu'r ffermydd hyn i ddatblygu eu Hasesiadau Cyfalaf Naturiol ar y fferm, cynhaliwyd arolwg gwaelodlin o fioamrywiaeth.

Canfu hyn fod gan 11 o'r 15 fferm fwy na 10% o gynefin naturiol, gyda choetir llydanddail yn cyfrannu'n sylweddol at y ganran hon.

Roedd y tir a oedd wedi'i orchuddio gan gynefinoedd naturiol neu led-naturiol ar bob fferm fel cyfran o'i arwynebedd cyffredinol yn amrywio o 1.3% i 77.3%.

Dywed Arbenigwr Bioamrywiaeth Cyswllt Ffermio, Lynfa Davies, fod y canlyniadau'n dangos yr amrywiaeth o fathau o gynefinoedd ar draws tir fferm yng Nghymru, ond hefyd yr amrywiaeth rhwng ffermydd.

Allwn ni ddim ymdrin â hyn gan ddefnyddio dull 'un maint i bawb', ac mae'n bwysig iawn bod ffermwyr yn deall y sefyllfa ar draws eu fferm eu hunain, 

Meddai.

Yn ôl Lynfa, mae'n bwysig bod ffermwyr yn gwirio cywirdeb eu mapiau ar Daliadau Gwledig Cymru, a’u bod yn gofyn am gyngor os yw'r fferm yn disgyn o dan y lefel gymhwyso ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, sef 10% o gynefin naturiol.

Ymchwiliodd arolwg arall i'r coetir ar y ffermydd hynny, sef astudiaeth a nododd gyfleoedd sylweddol ar gyfer gwella trwy deneuo strategol, plannu mwy o wahanol rywogaethau brodorol, a rheoli llystyfiant cystadleuol yn yr ardaloedd a oedd heb eu rheoli.

Dangosodd yr arolwg botensial uchel ar gyfer creu coetiroedd newydd ar draws y rhan fwyaf o ffermydd, a hefyd y manteision canlyniadol y byddai hynny’n eu cael o ran byd natur a darparu lloches a chysgod ar gyfer da byw, meddai Geraint Jones, Arbenigwr Coetir Cyswllt Ffermio.

Ar gyfartaledd, roedd coetir yn cyfrif am 5% o gyfanswm arwynebedd cyfan y 15 fferm -roedd mathau o goed llydanddail yn cyfrif am 92% o gyfanswm arwynebedd y coetir, a chonwydd oedd y 8% a oedd yn weddill.

Canfuwyd bod clefyd coed ynn ar led, ac roedd yr holl goetiroedd heb eu rheoli.

Dywed Geraint fod cyfleoedd "clir ac ariannol ddoeth" ar gyfer ymyrraeth weithredol, adfer, a gwaith plannu newydd.

Fodd bynnag, gwnaeth yr arolwg ddangos fod y goedwedd ehangach gyffredinol yn gadarnhaol iawn.

Roedd gwrychoedd yn cael eu rheoli’n dda iawn ar y cyfan, gan arwain at rwydwaith o wrychoedd a oedd yn uwch na'r cyflwr cyfartalog.

Mae llawer o'r rhain yn llawn rhywogaethau, yn gadarn, mewn cyflwr da, ac mae ganddynt werth ecolegol uchel.

Roedd y ffensys dwbl a osodwyd yn ystod gwaith adfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol wedi cyfrannu'n sylweddol at dwf bywiog a strwythur cadarn gwrychoedd.

Dywed Geraint fod hyn yn dangos effaith gadarnhaol ymyriadau wedi'u targedu.

Mae'r arolwg yn pwysleisio'r angen dybryd am ymrwymiad o'r newydd i ddiogelu a gwella'r asedau naturiol hyn, gan gydnabod y rhan ganolog y mae ffermwyr yn ei chwarae wrth adeiladu tirweddau gwydn, bioamrywiol a chynhyrchiol yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol,

Ychwanega.

Un o ganfyddiadau nodedig yr arolwg oedd digonedd o goed gwrychoedd aeddfed ac, i raddau llai, coed aeddfed mewn caeau.

Mae'r nodweddion hyn yn arwyddocaol oherwydd eu bod yn gweithredu fel asedau ecolegol hanfodol, gan gynnig gwasanaethau ecosystemau hanfodol fel atafaelu carbon a sefydlogi’r pridd, wrth wella bioamrywiaeth ar yr un pryd trwy ddarparu cynefinoedd hanfodol,

Meddai Geraint.

Mae eu presenoldeb yn cyfrannu'n sylweddol at gymeriad unigryw ac adeiledd hanesyddol y dirwedd, gan danlinellu pa mor bwysig ydynt ar gyfer cadwraeth a rheoli tir yn gynaliadwy.

Un o'r 15 fferm a gymerodd ran yn yr arolygon oedd Glyn Arthur yn Llandyrnog, Dinbych, lle mae’r tad a merch, Peter Williams a Sarah Hammond, yn cynhyrchu cig oen o system bori helaeth.

Dywed Sarah yr oedd yn galonogol cael cadarnhad o'r lefelau uchel o fioamrywiaeth ar y fferm, a luniwyd gan genedlaethau o'i theulu.

Mae'r fferm wedi bod yn rhan o gynlluniau amaeth-amgylcheddol ers cyflwyno'r cynllun cyntaf, Tir Gofal.

Roedd ei choetir wedi'i sefydlu dros ganrifoedd, yn fwy diweddar yn yr 1960au pan blannodd taid Sarah goed.

"Mae ffermwyr yn cynhyrchu da byw ac yn tyfu cnydau, ond mae ganddynt fwlch gwybodaeth enfawr o ran coetir.

I ffermwyr, mae canllawiau ar ble i gael cyngor a chymorth ar gyfer rheoli coetir yn hanfodol, meddai.

Mae Glyn Arthur wedi ymgymryd â phrosiect rheoli coetir sydd wedi dysgu llawer iddynt am eu coetiroedd a'u dewisiadau o ran cwympo a gwerthu pren.

Ers bod yn rhan o'r prosiect Cyswllt Ffermio hwn, rydym bellach yn gwybod beth yw'r broses, a gobeithio y bydd hynny'n cael ei gyflwyno'n fwy cyffredinol drwy'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Cyswllt Ffermio ganfyddiadau arolwg arall a fu’n edrych ar boblogaethau adar tir fferm ar ffermydd rhwydwaith Ein Ffermydd.

Roedd 49 o rywogaethau adar gwahanol wedi'u nodi ar draws y ffermydd, a 29 o rywogaethau ar gyfartaledd ar bob un.

Mae wyth – gwennol y bondo, aderyn y to, y gwybedog mannog, y betrisen, brych y coed, corhedydd y coed, corhedydd y waun, a'r gog – yn cael eu dosbarthu fel adar tir fferm sy’n destun pryder o safbwynt cadwraeth yn y DU.

Mae eu presenoldeb yn tynnu sylw at bwysigrwydd posib tir fferm wrth ddarparu cynefin gwerthfawr, a sut mae'r tir fferm hwn yn chwarae rhan hanfodol wrth gyfrannu at fioamrywiaeth ledled Cymru. Mae arolygon pellach wedi’u cynnal yn ystod 2025, a bydd Cyswllt Ffermio yn adrodd ar y rhain yn ystod ei gyfres o ddigwyddiadau Ymweld ag 'Ein Ffermydd' ym mis Medi. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.