BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio Her Newydd

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi lansiad ein Cam 1 CSBRI Technoleg Bwyd-Amaeth!
Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Medi 2025
Diweddarwyd diwethaf:
1 Medi 2025
delwedd o datws newydd eu plannu yn cael eu gwirio

Mae cyllid cyfredol o hyd at £200,000, ac eithrio TAW, ar gael i gefnogi portffolio o brosiectau (yn amodol ar newid). 

Rydym yn ceisio nodi a chefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau cydweithredol Dichonoldeb Cam 1 sy'n arwain at fwy o effeithlonrwydd, cynhyrchiant a chynaliadwyedd yng nghadwyni cyflenwi amaethyddiaeth a bwyd amaeth yng Nghymru, gan sicrhau manteision amgylcheddol a chyflymu'r trawsnewidiad i sero net. 

Y blaenoriaethau: 

  • Cyflymu Galluoedd Tech-Amaeth yng Nghymru. 
     
  • Sbarduno mabwysiadu Tech-Amaeth ar ffermydd er mwyn cynyddu cynhyrchiant a bod yn fwy effeithlon (gan gynnwys Amgylcheddol) - ‘mwy am lai’ 
     
  • Sicrhau manteision amgylcheddol a helpu i gyrraedd Sero Net. 
     
  • Helpu i ddatblygu sgiliau ac addysg i roi’r galluoedd i weithwyr proffesiynol amaeth nawr ac yn y dyfodol i wneud y defnydd gorau posib o dechnoleg amaeth. 

Edrychwch ar ein Briff Her Technoleg Bwyd-Amaeth: (Saesneg yn unig)

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad: (Saesneg yn unig)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.