
Mae rhagoriaeth yn y defnydd cyfrifol o wrthfiotigau, sy’n ganolog i’r ymdrech yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR), wedi cael ei chydnabod yng Ngwobrau Milfeddygon a Ffermwyr Arwain DGC 2025.
Mae Arwain DGC yn rhaglen a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i harwain gan gwmni Mentera. Ei nod yw atal ymwrthedd gwrthficrobaidd ymhlith anifeiliaid ac yn yr amgylchedd, gan gefnogi ffermwyr a milfeddygon drwy gyfrwng penderfyniadau a yrrir gan ddata, technolegau arloesol, ac arferion da.
Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu llwyddiannau milfeddygon a ffermwyr da byw wrth iddyn nhw leihau’r angen am wrthfiotigau a chymryd camau i wella iechyd anifeiliaid.
Yn ogystal â gwobrwyo milfeddygon a ffermwyr da byw, roedd y gwobrau eleni yn cynnwys categori newydd ar gyfer milfeddygfeydd da byw – a grëwyd i gydnabod y gwaith a gaiff ei wneud gan dimau mewn milfeddygfeydd er mwyn gallu cydweithio â chleientiaid i leihau’r risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Dywedodd Dewi Hughes, rheolwr rhaglen Arwain DGC:
“Mi dderbynion ni enwebiadau o bob cwr o Gymru, a bu’n wych gweld yr amrywiaeth o gamau gweithredu a gaiff eu rhoi ar waith mewn milfeddygfeydd ac ar ffermydd – o brotocolau newydd a gwaith dadansoddi data, i waith monitro a defnyddio technoleg newydd.
“Ni fyddai llwyddiant Cymru wrth fynd i’r afael ag AMR a hyrwyddo defnydd cyfrifol yn bosibl heb gyfraniad a chefnogaeth ffermwyr a milfeddygon. Maen nhw ar flaen y gad yn yr ymdrech i leihau’r angen am wrthfiotigau wrth wella iechyd a chynhyrchiant da byw – ac mae’n deg bod eu llwyddiannau’n cael eu cydnabod yn gyhoeddus.”
Mae AMR yn bryder ‘Iechyd Cyfunol’, ac mae gwaith ffermwyr yng Nghymru yn cael ei gydnabod am ei effaith bwysig ar ddiogelu effeithiolrwydd gwrthfiotigau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Yn ddiweddar, derbyniodd Arwain DGC ei hun ddwy wobr fawr yng Ngwobrau Stiwardiaid Gwrthficrobaidd 2024/25, gan gydnabod llwyddiannau’r rhaglen wrth frwydro yn erbyn AMR.
Enillwyr Gwobr Milfeddygon a Ffermwyr Arwain DGC 2025
Gwobr y Milfeddyg Da Byw: Jane Anscombe, Farm First Vets
A hithau’n un o’r Pencampwyr Presgripsiynu Milfeddygol cyntaf, mae’r filfeddyg o’r Fenni, Jane Anscombe, wedi gweithio’n ddiwyd i godi safonau ei phractis wrth roi gwrthfiotigau ar bresgripsiwn a’u dosbarthu. Mae Jane hefyd yn weithgar fel aelod o rwydwaith y Pencampwyr Presgripsiynu Milfeddygol (VPC). Yn wir, roedd hi’n rhan o’r tîm a greodd y canllawiau clinigol ar gyfer y Pencampwyr.
Jane yw’r un ddechreuodd ad-drefnu fferyllfa Farm First Vets, gan roi gwrthfiotigau yn eu dosbarthiadau priodol. Mae’r ad-drefnu hwn yn dal i gael ei wneud a’i addasu ac mae wedi helpu’r holl staff i ddeall pwysigrwydd pob dosbarth o feddyginiaeth wrthfiotig. Mae hi’n ymgymryd â hyfforddiant staff yn gyson ac yn cynnal Cwrs Meistroli Meddyginiaethau. Bu hefyd yn allweddol wrth ddadansoddi gwerthiant y gwahanol ddosbarthiadau o feddyginiaeth flwyddyn ar ôl blwyddyn i geisio meincnodi’r defnydd.
Mae ymweliadau ‘datgan allforion i’r UE’ y practis wedi’u haddasu i gynnwys adolygiad o feddyginiaethau’r fferm. O dan gyfarwyddyd Jane, mae’r practis wedi tanysgrifio i system dadansoddi data VetImpress. Bu Jane yn allweddol yng ngwaith Farm First Vets wrth fonitro a meincnodi gwerthiant gwahanol ddosbarthiadau o feddyginiaeth.
Yn ogystal â hyn, Jane ddechreuodd yr arfer o roi milfeddyg ar rota’r dderbynfa i oruchwylio’r gwaith o roi cyffuriau ar bresgripsiwn a’u dosbarthu. Mae hyn wedi gwella’n fawr safonau’r practis o ran rhoi meddyginiaethau ar bresgripsiwn a’u dosbarthu. Mae’r cam hwn hefyd wedi cael ei groesawu gan ffermwyr, sy’n gwerthfawrogi cael aelod staff cymwys i drafod unrhyw broblemau o ran clefydau a allai fod ganddyn nhw. Yn sgil hyn, mae cleientiaid yn defnyddio meddyginiaethau milfeddygol yn fwy cyfrifol.
Ffermwr Da Byw: Tony Watkins
Mae’r ffermwr bîff o’r Fenni, Tony Watkins, wedi mynd ati’n frwd i ddefnyddio llai o wrthfiotigau. Mae hyn, yn ei dro, wedi arwain at ostyngiad o 92% yn y defnydd ohonyn nhw ar Fferm Upper House.
Gall amgylchedd y mannau dan do lle caiff anifeiliaid eu cadw gael cryn effaith ar eu cynhyrchiant a’u hiechyd a lles, a hefyd ar ôl troed carbon y fferm.
Fel rhan o rwydwaith cenedlaethol Arwain DGC o ffermydd Prawf o Gysyniad, manteisiodd Tony a’i deulu ar y cyfle i gael cyngor arbenigol a gwneud gwelliannau i siediau da byw’r fferm er mwyn gwella ansawdd a llif yr aer ynddyn nhw.
Mae awyru da yn hanfodol i atal clefydau anadlol, ymhlith rhai eraill, gan nad yw pathogenau’n goroesi’n hir ar ôl i’r anifail eu hanadlu allan. Yn ogystal, mae’r teulu Watkins wedi cael eu hysbrydoli i dreialu offer ychwanegol sy’n monitro siediau. Mae hyn yn eu galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus i ddiogelu iechyd yr anifeiliaid dan do, gan leihau eu hamlygiad i bathogenau, gwella eu lles, a lleihau nifer yr achosion o glefydau yn eu plith.
Milfeddygfa Da Byw: Wern Vets Cyf
Mae milfeddygfa yng ngogledd Cymru, Wern Vets Cyf, yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau profi yn gyson i leihau’r pwysau dethol sy’n gysylltiedig ag AMR. Ymhlith y profion a gaiff eu cynnal gan y practis mae Mastatest (teclyn awtomataidd i ganfod mastitis); swabiau meithriniad a sensitifrwydd; a phrawf cytoleg i chwilio am dystiolaeth o haint bacteriol cyn rhoi gwrthfiotigau ar bresgripsiwn. Mae hyn yn caniatáu’r dewis cywir o gyffur.
Mae’r holl staff yn cael hyfforddiant mewnol ac mae ganddyn nhw fynediad at adnoddau sy’n pwysleisio pwysigrwydd dosbarthu gwrthfiotigau a phryd mae’n briodol defnyddio neu roi’r cyffuriau hyn ar bresgripsiwn.
Mae’r practis hefyd yn arddangos posteri o ddosbarthiadau’r cyffuriau/AMR, fel y gall staff droi atyn nhw am wybodaeth a chyngor. Yn ogystal, mae gweithdrefnau gweithredu safonol ar waith – megis defnyddio profion meithriniad a sensitifrwydd ar boblogaethau o ŵyn sy’n dioddef o symptomau clefyd y genau dyfrllyd cyn dewis gwrthfiotigau.