Gyda chost gynyddol dwysfwyd protein, roedd Llyr yn awyddus i roi cynnig ar gnwd protein cartref amgen ar gyfer y fuches sydd â pherfformiad llaetha uchel i leihau costau porthiant ac ôl troed carbon y fferm ac mae wedi gwneud hynny trwy gymorth Cronfa Arbrofi Cyswllt Ffermio.
Bydd y prosiect yn archwilio hyfywedd tyfu blodau’r haul ochr yn ochr ag india-corn fel cnwd cyfatebol gan fod blodau'r haul yn cynnig mwy o brotein na india-corn, gan leihau'r angen am ffynonellau protein drud wedi’i brynu megis soia o bosibl. Yn ogystal, bydd rhygwellt Westerwold yn cael ei hau yn syth ar ôl cynaeafu’r india-corn i leihau erydiad pridd ac er mwyn darparu porthiant gwerthfawr ar gyfer y gaeaf.
Bydd y prosiect yn cychwyn ym mis Mai 2024 ac yn dod i ben ym mis Chwefror 2025. Mae cerrig milltir allweddol yn cynnwys plannu’r india-corn a blodau’r haul, monitro twf y cnydau, cynaeafu, dadansoddi gwerth y porthiant, a gwerthuso’r effaith economaidd ac amgylcheddol.
Dywedodd Llyr Griffiths, "Rydym yn edrych ymlaen at gychwyn y prosiect arloesol hwn ac archwilio ffyrdd o wella cynaliadwyedd ein fferm wrth leihau costau porthiant o bosibl. Credwn y gall y dull hwn fod o fudd i'n busnes a'r amgylchedd."
Ychwanegodd Lawrence Couzens, agronomegydd y fferm, "Mae'r prosiect hwn yn rhoi addewid sylweddol i ffermwyr llaeth Cymru. Drwy dyfu cnwd cyfatebol sy’n llawn protein a defnyddio rhygwellt Westerwold, gallwn o bosibl greu strategaeth porthiant fwy cynaliadwy a chost-effeithiol."
Mae Tafarn y Bugail wedi ymrwymo i rannu canfyddiadau’r prosiect gyda’r gymuned amaethyddol ehangach. Ymunwch â ni ar fferm Tafarn y Bugail ar yr 28ain o Awst lle bydd cyfle i ddysgu mwy am sut y gellir defnyddio blodau’r haul fel ffynhonnell protein a dyfir gartref, ac os ellir tyfu blodau’r haul yn llwyddiannus fel cnwd cyfatebol yng Ngorllewin Cymru ac i drafod technegau rheoli a chynaeafu yn ogystal â gweld y cnwd cyn cynaeafu.
Am ragor o wybodaeth am brosiectau eraill y cyllid Arbrofi ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf a’r canlyniadau, ewch i wefan Cyswllt Ffermio - https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy