
Mae Tudor a Julia Hughes yn ffermio defaid ar ddau ddaliad yn Llangwyfan, ger Dinbych, gan brynu 1,200 o ŵyn benyw yn flynyddol i’w magu a’u gwerthu fel hesbinod, a hefyd yn tyfu 75 erw o india-corn i ffermwr llaeth lleol.
Mae sylfaen y tir yn cynnwys 127ha (316 erw) ar Fferm Llangwyfan, y cymerodd tad Tudor, H. Clwyd Hughes, reolaeth ohono fel tenant i ddechrau ym 1957 a’i brynu’n ddiweddarach yn y 90au cynnar.
Mae Tudor a Julia, y ddau wedi mynychu Coleg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth, hefyd yn rhentu tir gan gymydog, gan ffermio bron i 500 erw ar draws y ddwy fferm.
Gydag un llygad ar wireddu potensial incwm y fferm a gwella ei gwerth ar gyfer yr amgylchedd, natur a bywyd gwyllt, yn 2022 buont yn cymryd rhan mewn gweminar arallgyfeirio Cyswllt Ffermio a oedd yn archwilio rheoli coetir a phlannu.
“Fe wnaeth ein hannog i edrych ar yr asedau oedd gennym ni ac i ystyried sut y gallem gynhyrchu incwm o’r rheini,” eglura Julia.
Mae eu hadnodd fferm yn cynnwys ychydig llai na 12ha o goetir, ond nid oeddent wedi ei ystyried yn ased mewn gwirionedd.
Roeddent wedi cychwyn ar eu taith i ddechrau gyda Cyswllt Ffermio gyda’u huchelgeisiau i blannu coed ond roedd y wybodaeth a gawsant gan arbenigwyr yn y weminar ac mewn digwyddiadau a sgyrsiau dilynol wedi eu helpu i ddeall gwerth rheoli coetir presennol hefyd.
“Gwelsom fanteision dod â hwnnw’n ôl fel ased gweithredol, ei integreiddio i ochr fusnes pethau trwy gynhyrchu pren, ond hefyd ychwanegu at yr adnoddau presennol hynny trwy greu coetir ychwanegol, meddai Julia.
“Fel yr eiriolwyd yn y weminar Cyswllt Ffermio, rydym am i'r coed weithio i'r fferm.''
Aethant â’r meddylfryd hwnnw gyda nhw i ddigwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cyswllt Ffermio yn Llanfair-ym-muallt ym mis Mehefin 2022, lle cawsant gyngor pellach gan arbenigwyr coed.
“Y gwir amdani oedd, pe byddem yn symud ymlaen gyda rheoli’r coed a phlannu mwy, byddai angen rhywfaint o ddal dwylo arnom oherwydd nid oedd gennym y sgiliau a’r arbenigedd yn y maes hwnnw,” meddai Julia.
“Fe wnaeth Cyswllt Ffermio helpu oherwydd roedden nhw’n gallu darparu'r arweiniad a'r arbenigedd hynny i ni, a'n cyfeirio atynt.''
Roedd gan y teulu Hughes ddiddordeb nid yn unig mewn rheoli'r ddau goetir ar eu fferm eu hunain ond y ddau ar eu tir rhent hefyd.
Roedd y landlord, sy’n rhannu eu dyheadau amgylcheddol, yn hynod gefnogol.
Gwnaeth y teulu Hughes gais am Gynllun Rheoli Coedwig/Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), y cafodd 80% ohono ei ariannu trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.
Rhoddodd hyn fynediad iddynt at yr arbenigwyr coetir, Simon Hunt a Mike Richards, y ddau gynt o Coed Cymru, a asesodd y coetir.
Bydd gweithredu'r cynllun rheoli yn golygu cael gwared ar rai coed er mwyn galluogi nodweddion coetir hynafol i gael eu cadw.
“Mae pob coeden wedi'i hystyried yn nhermau ei gwerth ar gyfer cadwraeth a bioamrywiaeth wrth ddewis coed i'w cwympo,'' meddai Julia.
Ar ôl i’r Cynllun Rheoli Coetir gael ei gymeradwyo, gwnaeth Simon gais i CNC am drwydded cwympo coed am ganiatâd i gwympo’r coed, a gafodd ei chymeradwyo.
Mae Mike nawr yn marcio'r coed dethol i'w cwympo o fewn y clystyrau o bren y gellir ei farchnata a bydd wedyn yn helpu'r teulu Hughes i ddod o hyd i gontractwyr coetir addas i wneud y gwaith o gwympo a mynd â’r coed o’r safle.
Bydd hefyd yn eu cefnogi gyda chyngor ar gynhyrchu cytundebau gwaith i'r contractwyr gadw atynt.
Blaenoriaeth allweddol yw cael gwared ar goed trech fel bod cydbwysedd rhywogaethau yn cael ei adfer. “Mae coed sycamorwydd yn arbennig yn drech – mae gormod o lawer ohonynt i'r coed derw oroesi yn y tymor hir,”
“Bydd hyn yn caniatáu mwy o olau i dreiddio i ganopi’r coetir a chyrraedd llawr y coetir er mwyn annog twf fflora’r ddaear ac adfywiad naturiol coed,” meddai Julia.
Targed cwympo coed arall fydd coed ynn gyda llawer o'r rhain bellach wedi marw o afiechyd ac mae angen eu symud.
Ond ni fydd yr holl bren yn cael ei symud yn ystod y cynaeafu gan y bydd gweddillion yn cael eu gadael ar gyfer cynefin gwell fel coed marw sy'n sefyll neu wedi disgyn a all fod ar goll yn aml o goetir a or-reolir.
Po fwyaf yw cyfaint y coed marw mewn coetir, yr uchaf yw ei werth bioamrywiaeth - mae nifer y coed marw mewn coedwigoedd a choetiroedd bellach yn cael ei ddefnyddio fel dangosydd rhyngwladol allweddol o fioamrywiaeth ecosystemau coedwigoedd.
Roedd y teulu Hughes hefyd yn awyddus i edrych ar y potensial ar gyfer plannu ardaloedd newydd ar eu tir lleiaf cynhyrchiol ac ar ymylon caeau, ardaloedd na fyddai'n effeithio ar eu gweithrediadau ffermio allweddol. Roedd eu landlord yn cefnogi hynny hefyd.
Gwnaethant gais am Gynllun Cynllunio Creu Coetiroedd trwy Daliadau Gwledig Cymru ac eto maent yn gweithio gyda Mike, sydd hefyd yn gynllunydd coetir cofrestredig, ar hyn.
“Fe wnaeth ein helpu i nodi ardaloedd ar gyfer plannu ac yna ymgynghorodd â CNC ar y rhain er mwyn osgoi amharu ar gyflwr y cynefin presennol,” meddai Julia.
Wrth i'r canopi ehangu yn y coetir sydd newydd ei blannu, bydd y rhedyn yn dirywio ac yn caniatáu i haen newydd o lystyfiant coetir ddatblygu.
Mae'r holl dir ar rent a rhan o Fferm Llangwyfan wedi'u dynodi'n Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), dosbarthiad sydd bellach wedi'i ailenwi'n Dirweddau Cenedlaethol.
Bydd y trawsnewid o'r ardal goetir newydd arfaethedig, ffridd, i'r rhostir agored uwchben o fudd i rywogaethau allweddol fel yr ehedydd, corhedydd y waun a thinwen y garn a gallai fod yn fanteisiol i'r rugiar ddu hefyd.
“Rydym hefyd wedi bod yn ymgynghori ac yn cydweithio â Thirweddau Cenedlaethol Sir Ddinbych ar hyn,'' meddai Julia.
Mae gan y teulu Hughes a'u landlord hanes da o gydweithio, gan ddatblygu cynllun rheoli pori yn flaenorol i wella tymor nythu'r ehedydd a hadu blodau gwyllt sy'n tyfu ar y bryn.
Wrth i Tudor a Julia symud ymlaen gyda’u cynlluniau, maen nhw’n cyfaddef na fydden nhw byth wedi gallu cyflawni’r hyn sydd ganddyn nhw heb gefnogaeth Cyswllt Ffermio.
“Ni fyddem wedi gallu ei wneud heb Cyswllt Ffermio, nid oes gennym y math hwnnw o arbenigedd,'' mae Julia yn cydnabod.
“Hyd yn oed os oedd yna benderfyniad, nid oedd gennym ni'r wybodaeth, yr arbenigedd na'r cysylltiadau i wneud iddo ddigwydd, roedd y dal dwylo a'r arweiniad technegol yn hollbwysig.''
Dywedodd Geraint Jones, Arbenigwr Coedwigaeth Cyswllt Ffermio, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn y broses dal dwylo honno, fod y prosiect hwn yn enghraifft dda o sut y gall tirfeddianwyr a thenantiaid gydweithio i gyflawni amcanion rheoli coetir a sefydlu.
Elfen bwysig i gyflawni hynny oedd cyfathrebu da, mae’n credu.
“Weithiau gall cyfathrebu fod yn ddiffygiol mewn perthnasoedd rhwng landlordiaid a thenantiaid a gall hynny achosi gwrthdaro, ond mae Tudor a Julia wedi dangos beth sy’n bosibl o ymgynghori’n agos â’u landlord.
“Trwy egluro eu hamcanion a’u cynlluniau, maen nhw wedi llwyddo i gytuno ar ffordd ymlaen.”