
Mae TST yn defnyddio marcwyr unigol penodol, fel cyfradd twf, ac yn ystyried cyfrif wyau ysgarthol y ddiadell (FEC).
Mae’r tad a mab, Glyn a Chris Davies, sy'n rhedeg diadell o 650 o famogiaid croesfrid yn Awel y Grug, Cefn Coch, Sir Drefaldwyn, wedi bod yn treialu'r dull hwn fel un o'u prosiectau Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, ac mae'r canlyniadau wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Ym mis Gorffennaf, pan arweiniodd tymheredd uchel a glawiad at gyfrif wyau ysgarthol o 446 o wyau'r gram (epg), byddent fel arfer wedi trin pob oen.
Ond trwy gadw at bolisi TST, roedd angen dosio llai na 50% o'r ŵyn mewn gwirionedd, meddai Owain Pugh, Swyddog sector cig coch Cyswllt Ffermio ar gyfer canolbarth Cymru, sy'n eu cynorthwyo gyda'u prosiectau Ein Ffermydd.
Mae dilyn strategaeth TST hyd yn hyn wedi arwain at weinyddu 855 yn llai o ddosau dros ddau gylch triniaeth, un ym mis Mehefin ac un arall ym mis Gorffennaf, ac arbed bron i £60 mewn drensh,
Meddai Owain.
Mae'n arbediad ariannol da ar ben y budd enfawr o leihau ymwrthedd i anthelmintigau, datblygu a diogelu chwilod y dom.
Mae'n gam arall yn y rhaglen y mae’r teulu Davies wedi'i sefydlu o amgylch defnydd cyfrifol o anthelmintigau, taith a ddechreuon nhw pan ddaeth Chris yn aelod o grwpiau trafod Cyswllt Ffermio am y tro cyntaf yn 2018.
I ddechrau, cynhaliwyd prawf lleihau cyfrif wyau ysgarthol i sefydlu effeithiolrwydd drensh gwyn (1-BZ); Datgelodd hyn ymwrthedd llyngyr i'r grŵp anthelmintig hwnnw a allai fod wedi datblygu o orddibyniaeth ar un grŵp drensh.
Wrth fynd ymlaen, cynghorwyd y teulu Davies gan eu practis milfeddygol, Milfeddygon Hafren, i ddefnyddio drensh gwyn yn unig i drin Nematodirus pan fydd beichiau llyngyr strongyle yn isel.
Am weddill y tymor, maen nhw'n cylchdroi drensh melyn (2-LV) a chlir (3-ML) ac yn defnyddio oren (4-AD) a phorffor (5-SI) yn strategol i osgoi ymwrthedd i'r grwpiau hynny.
Fe wnaethant fuddsoddi mewn gweinyddydd dosio wedi’i raddnodi’n awtomatig sy'n cysylltu â'u cloriannau pwyso ac yn caniatáu iddynt addasu’r dos yn ôl pwysau’r oen.
Bu heriau technegol wrth roi hyn ar waith ond gyda chymorth gan yr ymgynghorydd da byw Matt Blyth, a hwyluswyd gan Cyswllt Ffermio, datryswyd hyn; fe wnaethant fuddsoddi mewn offer pwyso penodol a oedd yn gydnaws â'r ap Cotter Agri SmartWorm a ddefnyddir ar gyfer TST.
Dadansoddodd Fiona Kenyon, Prif Wyddonydd Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Moredun, samplau cyfrif wyau ysgarthol i sefydlu pa rywogaethau llyngyr oedd yn bresennol.
Mae hon yn wybodaeth werthfawr sy'n helpu i ddeall pa rywogaethau o lyngyr sy'n datblygu ymwrthedd i driniaeth llyngyr, meddai.
Bydd yn caniatáu i ni optimeiddio pryd mae dosbarthiadau cyffuriau penodol yn fwyaf effeithiol,
Meddai.
Mae TST, meddai Fiona, yn cynnig potensial i arbed amser, llafur a lleihau'r defnydd o ddosau, ac mae pob un ohonynt yn lleihau costau mewnbwn.
Mae'n wych gweld bod dull TST yn gweithio mor dda i'r teulu Davies.
Mae gan TST y fantais ychwanegol o arafu datblygiad ymwrthedd llyngyr, gan helpu ein triniaethau llyngyr cyfyngedig i aros yn effeithiol am gyfnod hirach.
Mae defnyddio ein triniaethau llyngyr mewn modd cynaliadwy yn hanfodol bwysig ac mae'r prosiect hwn yn dangos y gellir ei wneud heb effeithio ar gynhyrchiant anifeiliaid ac arbed amser ac arian.
I Glyn a Chris, mae'r prosiect wedi bod yn drawsnewidiol.
Nid yn unig y mae cyfnodau dosio wedi cyflymu'n sylweddol – dim ond 30 munud a gymerodd un sesiwn iddynt, dair gwaith yn gyflymach na thrin y grŵp cyfan – ond maen nhw wedi gwneud arbedion cost ac, yn bwysig, nid yw llyngyr yn adeiladu imiwnedd i ddosau.
Dywed Chris fod sefydlu union bwysau pob oen a rhoi dos cyfatebol yn gwneud synnwyr mewn sawl ffordd.
Mae bellach yn sylweddoli bod dyfalu pwysau anifail trwy asesiad gweledol, fel y gwnaeth yn y gorffennol, yn annibynadwy.
Gyda TST, nid ydym yn tan-ddosio nac yn or-ddosio,
Meddai.
Trwy fonitro pwysau yn agosach, mae'r busnes wedi gallu cipio prisiau uwch am eu hŵyn.
Pan allaf weld ŵyn yn magu pwysau yn gyson, ac mae pori cylchdro yn helpu gyda hynny, gallaf ymatal rhag eu gwerthu am ychydig wythnosau i ganiatáu iddynt fagu mwy o bwysau," meddai. "Yn y gorffennol, byddwn wedi bod yn anelu at eu gwerthu cyn gynted â phosibl.
Mae Chris yn cyfaddef bod sefydlu'r system yn heriol ac roedd angen cymorth Matt arno gyda hynny.
Gallaf weld pam y gallai ffermwyr roi'r gorau iddi ar y cam hwnnw ond unwaith y bydd popeth ar waith, ni fyddant yn edrych yn ôl.
Mae TST a gwaith prosiect arall y mae wedi bod yn rhan ohono drwy'r rhwydwaith Ein Ffermydd, gan gynnwys tyfu meillion i besgi ŵyn a phori cylchdro, wedi trawsnewid y busnes, ychwanega.
Mae'r holl newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi ein rhoi ni mewn sefyllfa llawer cryfach.