Nod y brosiect yw nodi’r cyfansoddiad gwndwn mwyaf effeithiol ar gyfer sicrhau perfformiad gorau posibl yr ŵyn ar ôl diddyfnu. Bydd y prosiect yn cymharu enillion pwysau byw dyddiol ŵyn (DLWG) a chyfrif wyau ysgarthol (FEC) ar draws tri math gwahanol o wndwn: gwndwn amlrywogaeth, gwndwn glaswellt sydd â llawer o siwgr, a gwndwn rhygwellt lluosflwydd.
Sefydlwyd y gwndwn y llynedd ar dri chae sydd wedi cael eu rheoli'n debyg yn hanesyddol. Bydd toriad o silwair yn cael ei gwblhau yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf a bydd y cnwd yn cael ei gofnodi. Bydd grwpiau o ŵyn wedi’u diddyfnu wedyn yn cael eu cyflwyno i’r adladd silwair a bydd eu perfformiad yn cael ei fonitro a’i gofnodi gyda thechnoleg EID. Bydd data ar bwysau'r ŵyn, cyfrif wyau ysgarthol, cynnyrch silwair, a ffactorau eraill yn cael eu casglu a'u dadansoddi trwy gydol y prosiect.
"Dyma enghraifft wych o sut mae ffermwyr Cymru yn croesawu technoleg ac arferion cynaliadwy," meddai Lisa Roberts, Rheolwr Sector Cig Coch Cyswllt Ffermio.
"Trwy ymchwilio i effaith gwahanol wndwn ar berfformiad ŵyn, mae David & Will nid yn unig yn anelu at wella effeithlonrwydd eu fferm eu hunain ond hefyd yn cyfrannu gwybodaeth werthfawr i'r gymuned amaethyddol ehangach."
Bydd adroddiad terfynol ar y prosiect ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio yn ddiweddarach yn y flwyddyn gyda digwyddiad ar y fferm i arddangos y canlyniadau. Cadwch lygad ar ein gwefan am ragor o wybodaeth ac i ddarganfod mwy am brosiectau eraill y cyllid arbrofi –
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/cyllid-arbrofi-gwireddu-eich-syniad.