BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canfyddiadau asesiadau ôl troed carbon o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio - astudiaethau achos llaeth a chig coch

Fel rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, mae deuddeg fferm wedi cwblhau asesiadau ôl troed carbon. Mae’r asesiadau hyn yn hanfodol er mwyn i ffermwyr ddeall sut mae eu harferion rheoli’n dylanwadu ar eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr a’r stoc garbon ar eu ffermydd.
Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2025
Diweddarwyd diwethaf:
19 Awst 2025
delwedd o foch yn y maes

Gall yr asesiadau hyn hefyd arwain at leihad mewn costau cynhyrchu, a galluogi ffermwyr i amlygu eu hymdrechion amgylcheddol, gyda photensial i hybu eu hapêl i gwsmeriaid ar y farchnad. Cwblhawyd yr holl asesiadau gan ddefnyddio cyfrifiannell garbon fferm, Agrecalc Cloud.

Caiff canfyddiadau’r ymarfer eu hamlygu mewn dwy astudiaeth achos fanwl o fferm laeth a fferm bîff a defaid a fu’n rhan o’r astudiaeth.

ASTUDIAETH ACHOS 1

Mae’r allyriadau sy’n deillio o gynhyrchu llaeth ar fferm laswelltir yn Sir y Fflint yn is na chyfartaledd y DU ar gyfer ffermydd gyda’r un fath o fenter, sy’n rhedeg system debyg i’r system ar fferm Moor Farm.

Mae’r teulu Davies yn cynhyrchu llaeth o 113 o wartheg Holstein Friesian pur ar fferm Moor Farm, Treffynnon, sef un o’r ffermydd sydd wedi bod yn rhan o astudiaeth ôl troed carbon Cyswllt Ffermio.

Mae’r fuches, sy’n lloia mewn bloc o wyth wythnos ym mis Ebrill a Mai ar hyn o bryd, yn cynhyrchu 7,500 litr fesul buwch bob blwyddyn ar gyfartaledd gyda 4.6% o fraster menyn a 3.67% o brotein.

Roedd dadansoddiad o ôl troed carbon y fferm yn dangos bod allyriadau’r fenter laeth yn 2023 yn cyfateb â 1.09 kg CO2-eq/kg o laeth wedi’i gywiro ar gyfer braster a phrotein (FPC), o’i gymharu â chyfartaledd o 1.19 kg CO2-eq/kg llaeth FPC ar gyfer ffermydd tebyg yn y DU a fu’n defnyddio’r gyfrifiannell ôl troed carbon, Agrecalc Cloud.

Roedd allyriadau’r fferm gyfan, ac eithrio newidiadau o ran y stoc garbon, yn cyfateb â 974,700 kg CO2-eq - 12% yn allyriadau carbon deuocsid (CO2), 64% yn allyriadau methan (CH4) a 23% yn allyriadau ocsid nitrus (N2O).

Bu’r astudiaeth yn edrych ar ffynhonnell yr allyriadau hynny. Treulio bwyd oedd yn gyfrifol am y mwyafrif, sef 58%, gyda phorthiant a brynwyd i mewn yn gyfrifol am 16%, a rheoli tail yn gyfrifol am 15%.

Roedd allyriadau eraill yn deillio o wrtaith (6%), tanwydd (4%) a thrydan (0.9%), ac roedd ffactorau a ystyriwyd dan y categori “arall” – sef adlodd cnydau, calch, cludiant a gwastraff – yn gyfrifol am 0.9%.

Roedd newidiadau mewn stoc garbon o goed yn cyfateb â -1,938 kg CO2-eq ar fferm Moor Farm, gan ddangos bod carbon yn cael ei ddal a’i storio ar y pridd.

Roedd adroddiad y teulu Davies ar ôl asesiad yn eu cynghori ynghylch camau gweithredu posibl i leihau ôl-troed carbon, a’r rhai a allai hefyd wella perfformiad a phroffidioldeb da byw.

Ystyriwyd bod ffocws y teulu ar brofion genomig i lywio eu penderfyniadau bridio yn gam positif, ynghyd â sicrhau’r cynhyrchiant llaeth gorau posibl o’r borfa drwy leihau dibyniaeth ar ddwysfwyd.

At y dyfodol, gallai datblygiadau ym maes ymchwil a thechnoleg gynnig cyfleoedd pellach yn ôl yr adroddiad.

Gallai rhai o’r enillion mwyaf ddeillio o leihau allyriadau o ganlyniad i eplesu enterig – treulio bwyd – trwy sicrhau’r maeth gorau posibl ac addasu dognau.

Dywed Rhys Davies, sy’n ffermio gyda’i rieni, Dei a Heulwen, fod yr asesiad wedi bod yn ymarfer defnyddiol iawn.

Mae’r wybodaeth gennym erbyn hyn, a gallwn asesu’r hyn yr ydym yn ei wneud yn dda o safbwynt allyriadau, a ble y gallem wella, ond mae hefyd yn braf gwybod ein bod yn cymharu’n dda gyda’r ffigwr carbon deuocsid cyfwerth ar gyfer y cynhyrchwyr llaeth cyfartalog,

Meddai.
 

At y dyfodol gydag adnoddau carbon, hoffem ddefnyddio ein data twf glaswellt Agrinet fesul tDM/ha i ddarganfod rôl y glaswelltir mewn atafaeliad carbon.

Mae’r cwmni sy’n prynu llaeth y fferm, sef Arla, eisoes yn gweithredu cynllun i ganiatáu i gyflenwyr sicrhau incwm ychwanegol i bris y llaeth ar gyfer profi carbon yn y pridd.

Mae’n annog ffermwyr i brofi gyda’r bwriad o ddatblygu’r system ymhellach a fydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i gynyddu incwm,

Meddai Rhys.

ASTUDIAETH ACHOS 2

Mae fferm da byw ar yr ucheldir yn Sir Drefaldwyn yn rhoi mesurau ar waith i gynyddu cynhyrchiant ar eu mentrau mamogiaid a gwartheg sugno i leihau allyriadau ymhellach.

Gyda ffigwr o 24.89 kg CO2e/kg o gig eidion ar y bach ar gyfer y fenter bîff, mae allyriadau buches bîff Glyn a Chris Davies ar fferm Awel y Grug, Cefn Coch, yn llawer is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 30.22 kg CO2e/kg o gig eidion ar y bach ar gyfer ffermydd tebyg sydd hefyd yn defnyddio’r cyfrifiannell ôl troed carbon, Agrecalc Cloud.

Ond gydag allyriadau cyfartalog ar gyfer cilogram o gig oen a gynhyrchwyd gan eu diadell o famogiaid croes yn 32.11 kg CO2e/kg ar y bach o’i gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 25.94 kg CO2e/kg, maent yn rhoi newidiadau ar waith i wella hynny.

Roedd cyfanswm allyriadau’r fferm, ac eithrio newidiadau yn y stoc garbon, yn cyfateb â 690,308 kg CO2-eq.

Roedd y fenter ddefaid, sy’n cynnwys 650 o famogiaid croes, yn gyfrifol am 68% o gyfanswm allyriadau’r fferm, ac roedd y fenter o 30 o wartheg Limousin croes bîff yn gyfrifol am 32% o’r allyriadau.

Treulio bwyd oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r allyriadau – sef 70% o gyfanswm yr allyriadau yn y fuches bîff a 77% yn y ddiadell ddefaid.

Roedd newidiadau mewn stoc garbon, sy’n dangos atafaeliad carbon ar y fferm, yn cyfateb â - 8,083 kg CO2-eq.

Dywed Chris fod canlyniadau’r archwiliad gwaelodlin hwn yn cyd-fynd â sawl agwedd ar y system ffermio sydd dan sylw i’w gwella fel rhan o’i rôl fel un o ffermydd rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio.

Mae’r rhain yn cynnwys lleihau costau mewnbynnau trwy dyfu gwndwn meillion coch; mae hyn wedi cyflymu amseroedd pesgi ŵyn yn ogystal â lleihau costau porthiant a brynir i mewn.

Mae’r teulu Davies hefyd yn gwella effeithlonrwydd y ddiadell, gan dreialu system newydd o roi triniaethau llyngyr sy’n gwahaniaethu rhwng yr ŵyn hynny sydd angen triniaeth a’r rhai nad ydynt angen triniaeth ac yn darparu dos wedi’i deilwra yn ôl gofynion ŵyn unigol.

Ers casglu’r data ar gyfer yr adroddiad ôl troed carbon, mae gwerthusiad o’r fenter gwartheg sugno wedi cael ei gwblhau ar fferm Awel y Grug, ac mae’r teulu Davies yn dweud eu bod bellach yn bwriadu rhoi’r gorau i gynhyrchu bîff a chynyddu nifer y mamogiaid a chadw diadell gaeedig.

Dywed Chris fod nifer y mamogiaid yn debygol o gynyddu i 900 gyda 200 o ŵyn cyfnewid bob blwyddyn.

Trwy gadw diadell gaeedig, mae’n gobeithio cadw clefydau i ffwrdd, gan gynyddu cynhyrchiant y ddiadell ymhellach.

Bydd yr archwiliad ôl troed carbon yn cael ei ailadrodd tua diwedd cyfnod Awel y Grug fel un o’r ffermydd rhwydwaith Ein Ffermydd i edrych ar effaith y newidiadau hynny.

 

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.