BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Beth am gymryd y cam i ddyfodol tyfu yng Nghanolfan Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn y 'Pentref Garddwriaeth' yn Sioe Frenhinol Cymru 2025

O iechyd y pridd i strategaeth werthu, mae Cyswllt Ffermio yn helpu garddwriaeth fasnachol yng Nghymru i ffynnu. Ewch i'r Ganolfan Garddwriaeth yn y Pentref Garddwriaeth (Rhodfa A) yn Sioe Frenhinol Cymru eleni (21 – 24 Gorffennaf) ac archwiliwch gyngor, adnoddau a syniadau arbenigol i dyfu eich busnes.
Cyhoeddwyd gyntaf:
23 July 2025
Diweddarwyd diwethaf:
23 July 2025

P’un a ydych chi’n dyfwr masnachol sefydledig neu’n newydd-ddyfodiad gyda chynlluniau i arallgyfeirio i dyfu ffrwythau, llysiau, coed brodorol, planhigion addurniadol neu flodau – fe gewch gyngor arbenigol, adnoddau o’r radd flaenaf a syniadau ysbrydoledig yng Nghanolfan Garddwriaeth Cyswllt Ffermio – gallwn ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i lwyddo, 

Meddai Sarah Gould, rheolwr rhaglen arddwriaeth Cyswllt Ffermio.

Bydd Sarah a'i thîm yn rhannu sut y gall ffermwyr a thyddynwyr Cymru arallgyfeirio i faes garddwriaeth fel rhan o strategaeth rheoli tir yn gynaliadwy – yn enwedig y rhai sydd eisoes yn manteisio ar dwristiaeth neu lety, lle gall ychwanegu profiadau i ymwelwyr fel 'menter casglu eich hun', llwybrau Calan Gaeaf neu weithdai blodau greu incwm newydd gwerthfawr.

Yn ogystal â nifer gynyddol o opsiynau sgiliau a hyfforddiant sector-benodol, un o lwyddiannau diweddar y rhaglen arddwriaeth fu'r cynnydd mewn rhwydweithiau tyfwyr.

Gan weithredu ledled Cymru, a chyda dros 400 o aelodau ar draws 19 rhwydwaith – mae pynciau arbenigol yn amrywio o blanhigfeydd blodau i lysiau ar raddfa cae ac o reoli plâu i ganfod coed brodorol a thyfu cynnyrch ar gyfer prynwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru – mae'r rhwydweithiau hyn i gyd yn cynnig canllawiau arbenigol, cyngor arbenigol ar agronomeg, ymweliadau astudio a gweithdai ymarferol.

Mae rhwydweithiau tyfwyr yn ffordd wych o rannu syniadau, cael mynediad at wybodaeth dechnegol a datblygu’r hyder i dyfu, rheoli a hyrwyddo eich busnes, 

Meddai Sarah.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a dewisiadau hyfforddiant sy'n benodol i'r sector ac sydd wedi'u hariannu'n llawn neu’n helaeth i bob tyfwr cofrestredig.

A beth am yr unigolion iau sy’n ymweld â'r sioe? Gall plant ifanc edrych yn fanwl ar y creaduriaid bach gyda'n microsgopau bach neu hela am lysiau cudd yn ein berfa sy’n llawn tywod!

Ychwanegwch ni at eich rhestr o stondinau ‘y mae’n rhaid i chi ymweld â nhw 

Meddai Sarah!

Cymeradwyaeth arbennig gan Adam Jones (@Adam yn yr Ardd), Cyfarwyddwr Anrhydeddus Garddwriaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Mae garddwriaeth yng Nghymru ar gynnydd – ac mae Cyswllt Ffermio ar y blaen!

Dylai unrhyw un sydd o ddifrif ynglŷn â thyfu’n fasnachol ymweld â’u stondin garddwriaeth bwrpasol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

P’un a ydych chi’n meddwl am blanhigion bwytadwy, planhigion addurniadol neu ychwanegu gwerth at eich tir - dyma le byddwch chi’n dod o hyd i’r atebion a’r ysbrydoliaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.