
Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio ar y fferm yn ddiweddar, a gynhaliwyd gan gydlynydd y bartneriaeth, Augusta Lewis, a’r prif dyfwr, Piers Lunt, bu cynhyrchwyr bwyd eraill yn dysgu am yr hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus - a’r hyn sydd heb fod mor llwyddiannus - yn ystod y tymor cyntaf.
Cyflwynwyd yr arbrawf Cyswllt Ffermio i edrych sut y gellid tyfu protein yn lleol i gyflenwi’r sector cyhoeddus, megis mewn ysgolion a chartrefi gofal.
Mae gwaith o ail-ddylunio bwydlenni gan Gyngor Sir Gâr yn edrych ar ffynonellau bwyd a chynaliadwyedd, ac yn amnewid eitemau y gellid eu cynhyrchu’n fwy lleol ac yn gynaliadwy, gan gynnwys protein planhigion, lle bo hynny’n bosibl.
Rydym ni eisiau dangos ein bod yn gallu cynhyrchu’r plât ‘bwyta’n dda’ yn Sir Gâr, ein bod yn gallu cynhyrchu a phrosesu protein o ansawdd uchel a chnydau grawn da wedi’u haddasu i’n hinsawdd, a thyfu ffrwythau a llysiau. Os gallwn ni wneud hynny ar un fferm, gall ffermwyr eraill wneud yr un fath,
Meddai Augusta.
Gyda chymorth Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, cwblhawyd Cynllun Rheoli Maetholion ar fferm Bremenda Isaf i ganfod statws maeth y pridd ar y fferm hon a fu’n fferm dda byw yn y gorffennol.
Mae’n bwysig iawn i gael y ddealltwriaeth honno o’r cychwyn cyntaf,
Meddai Augusta.
Dangosodd profion bod priddoedd gwaddodol dwfn y fferm yn ffrwythlon iawn.
Dangosodd y Cynllun Rheoli Maetholion ddata diddorol yn ymwneud â’n priddoedd, a newidiodd hynny’r cynlluniau’n sylweddol,
Eglurodd Augusta.
Mae lefelau ffosfforws y pridd yn uchel, fel y byddech yn ei ddisgwyl o ganlyniad i daenu slyri yn hanesyddol, felly nid oes unrhyw broblemau yma o gwbl o ran ffrwythlondeb. Ac wrth i ni ddysgu mwy am y pridd, rydym yn deall bod lefelau ffosfforws uchel yn gallu storio maetholion eraill hefyd, felly o ran iechyd a hyfywedd y cnydau, rydym ni’n edrych ar greu cydbwysedd sy’n golygu peidio ag ychwanegu mewnbynnau eraill ar hyn o bryd, heblaw calch i gynyddu pH.
Derbyniwyd cymorth hefyd gan wasanaeth mentora Cyswllt Ffermio, gyda mewnbwn gan Marina O’Connell a Rachel Phillips o Ganolfan Apricot yn Nyfnaint, menter gymysg sy’n defnyddio model y mae fferm Bremenda Isaf yn anelu tuag ato, a gan dyfwr organig, Iain Tolhurst, a fu’n darparu cyngor ar gynhyrchu ar raddfa cae ac mae’n cynhyrchu cynllun cylchdro.
Mae fferm Bremenda Isaf yn y broses o drawsnewid i dderbyn ardystiad organig, er eu bod eisoes yn tyfu’n unol â’r egwyddorion hynny.
Bu’r arbrawf Cyswllt Ffermio yn archwilio pa godlysiau sy’n perfformio’n dda yn hinsawdd Gorllewin Cymru.
Tyfwyd pys Carlin a Daytona a chafodd y rhain eu rhyng-gnydio gyda’r rhywogaethau gwenith treftadaeth eraill, sef Ebrill Barfog a Malika, i sicrhau buddion o ran iechyd y pridd, er enghraifft drwy leihau’r angen am wrteithiau artiffisial yn ogystal â gwerth bioamrywiaeth o safbwynt cyfleoedd i beillwyr o fewn y borfa.
Fe wnaeth yr arbrawf wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i dywydd gwlyb iawn cyn sefydlu.
Cawsom aeaf hynod o wlyb, gan olygu nad oedd y tenant sydd gennym yn pori’r tir yn gallu mynd ar y tir i gymryd y silwair, gan olygu ein bod wedi gorfod oedi cyn gwasgaru calch,
Meddai Augusta.
Roedd hynny’n golygu nad oedd modd plannu’r gwenith a’r codlysiau tan ddechrau mis Mehefin, ychwanegodd.
Roedd hynny’n hwyr iawn, ond fe wnaethom ni benderfynu y byddem yn plannu er hynny, gyda’r nod o ddysgu rhywbeth, ac rydym ni wedi dysgu llawer iawn mewn gwirionedd.
Mae yna lawer o risg ynghlwm â thyfu cnydau grawn, gall pobl sydd wedi bod yn dilyn y broses am amser hir iawn gael tymor trychinebus os yw'n eithriadol o wlyb neu’n eithriadol o sych ond y peth gwych am gynnal lleiniau o faint treial yw nad yw'r risg yn rhy fawr.
Roedd cyfradd egino’r pys Daytona yn wael, meddai, a bydd y cnydau’n cael eu cynaeafu’n hwyr iawn, os o gwbl, ond bydd samplu pridd a chwadratau’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol o ran effaith rhyng-gnydio ar lefelau biomas y pridd.
Rydym ni wedi dysgu llawer iawn am arferion tyfu’r rhywogaethau hyn, ac rydym yn hyderus hyd yn oed ar ôl un tymor tyfu y byddwn yn dechrau gweld sut y gall
rhyng-gnydio wneud gwahaniaeth i iechyd y pridd.
Mae Hannah Norman, swyddog sector garddwriaeth ar ran tîm technegol Cyswllt Ffermio, yn annog tyfwyr organig a garddwyr marchnad i fanteisio ar yr adnoddau sydd ar gael drwy raglen Cyswllt Ffermio i helpu gyda’u cynlluniau eu hunain.
Mae’r rhain yn cynnwys y Gwasanaeth Cynghori, sydd wedi’i ariannu hyd at 90% hyd at £3,000 fesul busnes cofrestredig, ar gyfer cyngor technegol, cynllunio busnes a gwasanaethau eraill.