Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig gweithdai hyfforddiant newydd wedi’u hariannu’n llawn i helpu ceidwaid da byw yng Nghymru i fynd i’r afael â heriau’n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid. Darperir y gweithdai gan bractisau milfeddygol ledled Cymru.
Datblygwyd y modiwlau hyfforddiant gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid (NADIS) a’u cymeradwyo gan Wobrau Lantra, gan sicrhau cynnwys perthnasol o ansawdd uchel. Mae pynciau pob gweithdy’n cyd-fynd â blaenoriaethau presennol Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag Iechyd a Lles Anifeiliaid.
Mae’r gweithdy hwn yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr i dyddynwyr. Bydd y gweithdy’n darparu dealltwriaeth o iechyd a lles anifeiliaid i dyddynwyr, gan drafod eu cyfrifoldebau cyfreithiol a’r Pum Rhyddid lles anifeiliaid. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu pwysigrwydd bioddiogelwch, gan gynnwys mesurau ymarferol, ac yn datblygu gwybodaeth am filheintiau a chlefydau hysbysadwy. Yn ogystal, mae’n cynnig manylion penodol ar gyfer rhywogaethau dofednod, moch, geifr ac alpacaod, gan ganolbwyntio ar faeth, cadw anifeiliaid dan do, clefydau cyffredin, a gweithdrefnau arferol.
Bydd y gweithdy hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd defnyddio meddyginiaethau’n gyfrifol. Bydd mynychwyr yn archwilio manteision ac anfanteision cadw rhywogaethau penodol megis dofednod, moch, geifr ac alpacaod, ynghyd â derbyn cyngor ar fwydo, cadw anifeiliaid dan do, hwsmonaeth, gweithdrefnau arferol, clefydau heintus cyffredin, a phroblemau iechyd penodol.
Bydd presenoldeb yn y gweithdy yn cael ei gofnodi ar gofnod Datblygiad Proffesiynol Parhaus y mynychwr, sef Storfa Sgiliau, ynghyd â thystysgrif presenoldeb gan Lantra.
Mae’r gweithdai hyfforddiant wedi’u hariannu’n llawn, ond er mwyn bod yn gymwys am y cyllid mae’n rhaid i bob mynychwr fodloni’r meini prawf cymhwysedd a bod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio cyn mynychu’r gweithdy. Bydd angen i bob mynychwr hefyd gwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP).
Am ddyddiadau a manylion gweithdai sydd ar y gweill, cliciwch yma neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol.