**Nid yw cynnwys Cyswllt Ffermio bellach ar gael trwy wefan BOSS Busnes Cymru. Bydd cwsmeriaid Cyswllt Ffermio yn gallu cael mynediad at eu Cynllun Datblygu Personol (PDP), ceisiadau hyfforddiant, e-ddysgu a Storfa Sgiliau trwy'r Hwb Sgiliau newydd a fydd ar gael yn fuan iawn. I fanteisio ar y rhain a chynigion eraill mae'n HANFODOL i chi ail-gofrestru gyda'r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd.**
Cofrestrwch nawr > Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symud i GOV.UK One Login | Cyswllt Ffermio
Dewiswch o ystod eang o gyrsiau hyfforddi achrededig, sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i ennill y sgiliau, y cymwysterau a’r cymwyseddau allweddol sydd eu hangen arnoch chi i gyflawni eich rôl.
Hyfforddiant wedi’i deilwra i chi
- E-ddysgu - Dysgwch ar-lein ar eich cyflymder eich hun
- Gweithdai - Sesiynau grŵp ymarferol, rhyngweithiol
- Gweminarau - Cymerwch ran mewn sesiynau byw gyda siaradwyr arbenigol
- Hyfforddiant achrededig - Darperir cymwysterau cydnabyddedig gan ddarparwyr cymeradwy
Mae'r holl hyfforddiant yn cael ei ariannu hyd at 80%.
Bob blwyddyn, gallwch ddewis hyd at dri cwrs hyfforddi, gan ddechrau o 1 Ebrill.
Gall unigolion gael cyllid ar gyfer un cwrs peiriannau ac offer y flwyddyn, ac un cwrs rheoli llygod a un cwrs plaleiddiaid fesul busnes.
Mae’r cyrsiau’n perthyn i bedwar maes, pob un â’i gyfradd cyllido ei hun –
- Busnes wedi’i ariannu 80%
- Tir wedi’i ariannu 80%
- Anifeiliaid wedi’i ariannu 80%, ac eithrio cyrsiau llygod (40%)
- Peiriannau ac Offer wedi’i ariannu 40%
Hyfforddiant ar gael drwy’r Hwb Sgiliau
Gallwch bellach gael mynediad at eich CDP, ceisiadau am hyfforddiant, e-ddysgu a’r Storfa Sgiliau drwy’r Hwb Sgiliau newydd – yn hytrach na thrwy wefan BOSS Busnes Cymru fel cynt.
Porwch rai o’r 127 o gyrsiau sydd ar gael
Hyd: 1 diwrnod
wedi’i ariannu 40%
Hyd: deuddydd
wedi’i ariannu 80%
Hyd: deuddydd
wedi’i ariannu 40%
Featured
Modiwlau E-ddysgu
Darganfod mwyCyn i chi wneud cais am gwrs hyfforddiant, efallai bydd angen i chi gwblhau modiwl e-ddysgu gorfodol.
Angen help i ddechrau?
Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio - 03456 000 813 / farmingconnect@mentera.cymru
Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol
Cyrsiau Hyfforddiant
Barod i ddechrau?
Cofrestrwch nawrHyd at £3000 o gyngor arbenigol ynghyd â chyrsiau hyfforddi wedi’u hariannu hyd at 80%. Er mwyn manteisio ar y cynigion hyn a rhai eraill, rhaid i chi ailgofrestru gyda rhaglen newydd Cyswllt Ffermio.