BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Erthygl newyddion

Pan fydd pob eiliad yn cyfrif: Cymorth cyntaf ymarferol i ffermwyr

Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru ac EMRTS yn dod ynghyd i ddarparu hyfforddiant mewn argyfwng sy'n achub bywydau
Part of:
Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2026
Diweddarwyd diwethaf:
7 Hydref 2026
Picture of Air ambulance and Kate Humphries

07/10/2026

Mae ffermwyr a gweithwyr fferm ledled Cymru yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cyfres unigryw o weithdai cymorth cyntaf mewn argyfwng ac ymarferol sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer realiti gweithio ym maes amaethyddiaeth.

Wedi'i ddarparu mewn partneriaeth rhwng Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), bydd y gweithdai Tractorau a thrawma newydd yn darparu hyfforddiant ymarferol i helpu cyfranogwyr i ymateb yn hyderus ac yn effeithiol pan fydd digwyddiadau annisgwyl yn digwydd ar y fferm.

Mae amaethyddiaeth yn parhau i fod yn un o'r diwydiannau mwyaf peryglus yng Nghymru, gyda llawer o ffermwyr yn gweithio ar eu pen eu hunain neu mewn lleoliadau anghysbell lle gall cymorth meddygol proffesiynol gymryd amser i gyrraedd. Yn y sefyllfaoedd hyn, gall y camau a gymerir yn ystod yr ychydig funudau cyntaf yn dilyn damwain gael effaith sylweddol ar y canlyniad.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS yn mynychu tua 90 digwyddiad ar gyfartaledd sy'n gysylltiedig â ffermio bob blwyddyn, gyda llawer ohonynt yn cynnwys argyfyngau meddygol a thrawmatig difrifol megis damweiniau gyda cherbyd, anafiadau ar ôl gwasgfa, damweiniau sy'n gysylltiedig â da byw ac ataliad ar y galon. 

Drwy senarios realistig ar y fferm, bydd cyfranogwyr yn ennill sgiliau a gwybodaeth ymarferol a allai helpu i achub bywyd wrth aros i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Mae'r pynciau a drafodir yn ystod y gweithdai yn cynnwys:

  • CPR a Chymorth Bywyd Sylfaenol
  • Rheoli gwaedu difrifol iawn
  • Ymateb i anafiadau gar ôl gwasgfa
  • Llosgiadau
  • Rheoli argyfyngau mewn lleoliadau gwledig anghysbell lle gall fod oedi gyda chymorth

Dywedodd Kate Humphries ar gyfer EMRTS:

“Mae ein timau’n mynychu digwyddiadau difrifol ar ffermydd ledled Cymru yn rheolaidd, sy’n aml yn cynnwys anafiadau trawmatig ac argyfyngau meddygol. Mae’r ychydig funudau cyntaf ar ôl digwyddiad yn dyngedfennol, a gall cael rhywun ar y safle sy’n gwybod sut i ymateb wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’r gweithdai hyn wedi’u datblygu i ddarparu sgiliau ymarferol, perthnasol ac o bosibl sy’n achub bywydau i’r rhai sy’n gweithio ym maes amaethyddiaeth.”

Ychwanegodd Sian Tandy o Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru:

“Mae pob fferm hefyd yn weithle, ac yn anffodus gall damweiniau ddigwydd ac maent yn digwydd. Drwy’r gweithdai hyn rydym am roi’r hyder i ffermwyr, aelodau o’r teulu a gweithwyr fferm i weithredu’n gyflym ac yn effeithiol mewn argyfwng. Gallai dysgu’r sgiliau hyn helpu i achub bywyd cydweithiwr, cymydog neu anwylyd.”

Yn ogystal â gwella diogelwch ar y fferm, bydd mynychu'r gweithdy yn cyfrannu at ofyniad Gweithred Gyffredinol 4 (UA4), Datblygiad Proffesiynol Parhaus y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), gan ganiatáu i gyfranogwyr hawlio oriau DPP cymwys.

Mae ffermwyr yn cael eu hannog i beidio ag aros nes bod argyfwng yn digwydd. 

Gallai buddsoddi ychydig oriau’n unig mewn hyfforddiant cymorth cyntaf ymarferol heddiw ddarparu'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen i amddiffyn aelodau'r teulu, gweithwyr, cydweithwyr neu gymdogion yfory.

Mae neilltuo lle’n hanfodol. I neilltuo lle, ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch ag Elen Davies ar 07301029435 neu Ceri Davies ar 07956194837.

Llysfasi, Rhuthun - 15 Hydref 2026 1pm – 4pm a 5pm – 8pm

Tan y Graig, Llanfarian, Aberystwyth - 20 Hydref 1pm – 4pm a 5pm – 8pm

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt - 3 Tachwedd 1pm – 4pm a 5pm – 8pm

Gwesty'r Ivy Bush, Caerfyrddin - 17 Tachwedd 1pm – 4pm a 5pm – 8pm

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.