BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Erthygl newyddion

Nid yw pob golau’r un fath. Effaith gwahanol donfeddi golau ar fuchesi llaeth dan do

Ar draws y DU, mae oddeutu 40,000 o wartheg llaeth yn cael eu magu dan do drwy gydol y flwyddyn. Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod sut y gellir defnyddio goleuni mewn siediau i sicrhau iechyd gwartheg llaeth a chynhyrchu cymaint o laeth â phosibl. Byddwn yn canolbwyntio ar ddwy brif agwedd o safbwynt goleuni a ddefnyddir mewn siediau, sef eu tonfedd a’u dwyster.
Part of:
Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2026
Diweddarwyd diwethaf:
13 Awst 2026
Carla Barennes with cows

Ebrill 2026

Awdur(on): Carla Barennes1, Tyler Stevenson1,2, Hannah Rees2,3

Cysylltiadau: Prifysgol Glasgow1, BioClocks UK2, IBERS, Prifysgol Aberystwyth3

Prif bwyntiau

Ar draws y DU, mae oddeutu 40,000 o wartheg llaeth yn cael eu magu dan do drwy gydol y flwyddyn. Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod sut y gellir defnyddio goleuni mewn siediau i sicrhau iechyd gwartheg llaeth a chynhyrchu cymaint o laeth â phosibl. Byddwn yn canolbwyntio ar ddwy brif agwedd o safbwynt goleuni a ddefnyddir mewn siediau, sef eu tonfedd a’u dwyster.


Sut mae goleuni’n dylanwadu ar rhythmau dyddiol o safbwynt ffisioleg a lles gwartheg llaeth


Mae’r rhan fwyaf o ffermydd yn dibynnu ar ffenestri to tryloyw neu len-waliau hydredol i sicrhau bod cymaint o olau’r haul â phosibl yn dod i mewn i’r adeilad yn ystod y dydd. Mae’r rhain yn aml yn cael eu hategu gan oleuni mewnol artiffisial gan ddefnyddio bylbiau fflworoleuol, gwynias neu ddeuodau allyrru golau (LED).


Mae goleuni naturiol yn cynnwys ystod eang o donfeddi golau. Fodd bynnag, un donfedd benodol (glas golau ar oddeutu 450-500 nanometr) yw’r prif amledd a ddefnyddir gan wartheg llaeth i reoli eu rhythmau dyddiol. Mae’r amledd goleuni hwn weithiau’n cael ei alw’n “olau melanopig”.


Mae tri gwahanol fath o gelloedd sensitif i oleuni (goleudderbynyddion) yn bodoli o fewn retina gwartheg; rhodenni, conau a chelloedd ganglion ffotosensitif y retina (ipRGCs). Mae gwartheg yn ddeugromat, gan olygu bod ganddynt gonau sy’n gallu gwahaniaethu rhwng tonfeddi byr (glas) a chanolig (melyn), ond yn cael trafferth gweld goleuni ar donfeddi hirach (coch). Mae ganddynt hefyd gelloedd rhodenni dwysedd uchel sy’n gwella’r golwg mewn golau gwan, gan hwyluso’r broses fforio wedi i’r haul fachlud. Y trydydd math o oleudderbynnydd, ipRGCs, sy’n gyfrifol am ganfod golau melanopig. Mae’r celloedd hyn yn trosglwyddo gwybodaeth i’r cnewyllyn suprachiasmatig (SCN) yn yr ymennydd (Ffigur 1). Un o rolau’r SCN yw rheoleiddio’r hormon melatonin. Yn y tywyllwch, mae melatonin yn cael ei syntheseiddio ac yn teithio drwy’r corff i nodi amgylchedd y nos. Mae newidiadau mewn cynhyrchiant melatonin yn effeithio ar wahanol rythmau ffisiolegol megis ymateb y fuwch i straen, swyddogaeth imiwnedd, metaboledd, atgynhyrchu a llaetha.

Light, or the absence of light, is detected by the eye and controls melatonin regulation of cattle physiology

Ffig 1. Mae goleuni, neu ddiffyg goleuni, yn cael ei ganfod gan y llygad ac yn rheoli melatonin mewn ffisioleg gwartheg

Pwysigrwydd tywyllwch: 

Mae melatonin yn ystod y nos yn cynnig nifer o fuddion ar gyfer gwartheg, gyda rhinweddau gwrthocsidiol a rhinweddau sy’n sbarduno imiwnedd, gan leihau cyfrif celloedd somatig mewn llaeth, yn ogystal â chyflawni rolau cardiofasgwlaidd, metaboledd lipid a rheoli straen gwres. Mae melatonin hefyd yn sbarduno progesteron, gan ddylanwadu’n gadarnhaol ar atgynhyrchu drwy wella iechyd öosytau - yn benodol drwy: leihau rhywogaethau ocsigen adweithiol a chyflymu’r broses aeddfedu, a datblygiad embryonau sy’n arwain at gyfraddau beichiogi uwch.

Awgrym 1

Effaith gwahanol donfeddi golau: 

Fel arfer, gyda goleuni artiffisial, y nod yw ail-greu lliwiau a chryfder golau naturiol mor agos â phosibl. Mae golau glas yn enwedig o bwysig yn y bore ar gyfer ailosod cylchoedd dyddiol a gwella bywiogrwydd gwartheg, ond dylid ei osgoi yn ystod y cyfnod tywyll. Mae golau gwyrdd yn gwella golwg gwartheg, gan leihau’r perygl o anafiadau megis briwiau ar y coesau a thoriadau ar y gynffon, a gallai leihau straen mewn sefyllfaoedd megis cludiant. Gall golau melyn effeithio’n gadarnhaol ar gymeriant bwyd ymysg lloi (Tabl 1). 

Mewn rhai sefyllfaoedd, gellir addasu goleuadau artiffisial i hwyluso gwaith rheoli ar y fferm gan hefyd leihau amhariad ar y gwartheg. Gellir defnyddio golau coch dwysedd isel ar gyfer gwiriadau yn ystod y nos gan fod gweithwyr fferm yn gallu gweld beth sy’n digwydd gan osgoi ailosod cloc corff y gwartheg.  

Cynyddu wavelengths 

Tonfedd LED 

Manteision 

Anfanteision 

Glas 

  • Cynnydd mewn bywiogrwydd a gweithgarwch, defnyddiol yn y bore 
  • Amlygiad yn y bore yn ysgogi cylchoedd melatonin iach 
  • Gall dwysedd uchel niweidio goleudderbynyddion 
  • Amlygiad gyda’r nos yn cyfyngu ar ryddhad melatonin (o’i gymharu â golau melyn) 
  • Lefelau cortisol a straen uwch (o’i gymharu â golau gwyn) 

Gwyrdd 

  • Gallu gweld rhwystrau’n well 
  • Llai o ymateb ofnus (yn cael ei roi i’r lloi; o’i gymharu â golau glas neu goch) 

 

 

Melyn 

  • Gwell cymeriant bwyd a dŵr 
  • Mwy o amser yn cnoi cil a chynnydd pwysau’r corff 
  • Gwella rhyddhad melatonin yn ystod y nos (rhoi golau melyn i wartheg llaeth benywaidd yn hwyr yn ystod y dydd; o’i gymharu â golau gwyn) 

 

Coch 

  • Lleihau amhariad i’r arfer beunyddiol yn ystod y nos 
  • Delfrydol ar gyfer goleuo yn y nos (gwella gwelededd gweithwyr) 

 

Gwyn 

  • Efelychu golau dydd naturiol (yn cynnwys cymysgedd o bob amledd lliw) 
  • Sbarduno cynhyrchiant llaeth a bywiogrwydd yn ystod y dydd 
  • Amharu ar rythmau beunyddiol os caiff ei roi yn ystod y nos (o ganlyniad i lawer o donfedd golau glas) 

 Tabl 1. Effeithiau cadarnhaol a negyddol gwahanol donfeddi goleuni

Awgrym 2

Crynodeb 

Os ydych chi’n bwriadu atgyweirio eich systemau goleuo’n barod ar gyfer y gaeaf nesaf, efallai yr hoffech gadw golwg ar y dechnoleg ddiweddaraf. Mae deuodau allyrru golau organig (OLED) yn dechnolegau addawol o safbwynt y gallu i addasu, gyda deuodau allyrru golau gyda’r gallu i addasu cryfder a sbectrwm lliwiau’n cynnig cyfleoedd ar gyfer gwella llesiant a chynhyrchiant gwartheg gan hefyd leihau biliau ynni. Mae rhai systemau hefyd yn dod gyda rhaglenni awtomataidd, gan dynnu pwysau rheoli oddi ar weithwyr fferm. 

 

Aberystwyth university logo

Affiliations logos


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.