25/08/2026
Mae cynhyrchydd cig oen ym Mro Morgannwg wedi ailedrych ar sut mae’n drensio defaid ar ôl i brosiect sefydlu pa rywogaethau allai oroesi gwahanol driniaethau yn ei ddiadell.
Mae Dai John yn cadw 500 o famogiaid Llŷn croes gyda’i dad a’i ewythr, Gareth a Philip, ac roedd ymhlith y 48 ffermwr a gymerodd ran ym mhrosiect WARS (Statws Ymwrthedd Anthelmintig Cymru) Cyswllt Ffermio.
Cafodd y prosiect hwn, a ariannwyd o dan rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, ei sefydlu i roi darlun cliriach i ffermwyr ar effeithiolrwydd yr anthelmintigau a ddefnyddir yn gyffredin ar ffermydd defaid yng Nghymru.
Ar fferm Manselfold yn Llanrhidian ar Benrhyn Gŵyr, byddai’r teulu John yn drensio ŵyn yn rheolaidd, ond dechreuwyd poeni bod parasitiaid wedi datblygu ymwrthedd i wahanol grwpiau o drensys.
Fel cyflenwr cig oen i Grŵp Dunbia fel rhan o gynllun ‘Taste the Difference’, ymunodd y teulu â phrosiect WARS i bennu canlyniadau’r protocolau SCOPS a roddwyd ar waith ganddyn nhw 10 mlynedd yn ôl. Bryd hynny, fe’u cefnogwyd gan Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio i brofi ymwrthedd i’r anthelmintigau roedden nhw’n eu defnyddio ar y pryd.
Fe wnaethon nhw ddilyn y cyngor hwn, gan leihau’r defnydd o levamisole a rhoi’r gorau i ddefnyddio ivermectin, gan newid i moxidectin yn lle.
Trwy brosiect WARS, fe wnaethon nhw wedyn gynnal Profion Lleihau Cyfrif Wyau Ysgarthol Techion UK ar chwe grŵp gwahanol o wrthlyngyryddion.
Mae’r profion yma, a gynhaliwyd gan ddefnyddio gwasanaeth DrenchSmart® y cwmni, yn dangos lle mae amheuaeth o ddiffyg effeithiolrwydd i grwpiau o wrthlyngyryddion.
Y cam cyntaf oedd cynnal prawf cyfrif wyau ysgarthol (FEC) i sicrhau bod yr ŵyn yn cwrdd â’r trothwy gofynnol ar gyfer baich llyngyr.
Ar fferm Manselfold, cymerwyd y samplau hynny ym mis Hydref 2025, cyn i’r ŵyn gael eu drensio, ac roedden nhw’n dangos baich llyngyr o 1,861 o wyau y gram (epg).
Yna, profwyd chwe grŵp o wrthlyngyryddion ar y ddiadell – benzimidazoles, levamisole, ivermectin, moxidectin, monepantel, a derquantel/abamectin.
Cymerwyd samplau ysgarthol o’r ŵyn a gafodd eu drensio â levamisole saith diwrnod ar ôl iddyn nhw gael eu trin, ac o’r rhai a gafodd eu trin â gwrthlyngyryddion eraill 14 diwrnod wedyn.
Dangosodd hyn fod moxidectin, monepantel a derquantel / abamectin yn gwbl effeithiol; roedd gan ivermectin effeithiolrwydd o 95%, levamisole 91%, a benzimidazoles 80%.
Mewn prawf pellach, defnyddiwyd technoleg foleciwlaidd i archwilio gwahanol rywogaethau o lyngyr a pha mor effeithiol fu’r gwrthlyngyryddion wrth ddinistrio llyngyr pathogenig, eithaf pathogenig, a dibathogenig.
Cafwyd darlun cymysg.
Er enghraifft, ymhlith y rhywogaethau pathogenig, cafwyd 37 epg o Haemonchus Contortus (‘llyngyr polyn barbwr’) cyn trin, a wnaeth ostwng i 7 epg ar ôl rhoi benzimidazoles. Gyda’r rhai a gafodd eu trin â levamisole, ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth o lyngyr.
Yr egp ar gyfer Teladorsagia Circumcincta (llyngyr brown bach y stumog) oedd 965 cyn trin, 63 ar ôl trin â benzimidazoles, ac 20 ar gyfer levamisole.
Yn ôl Eurion Thomas o Technion UK, mae’r profion rhywogaeth yn ddefnyddiol oherwydd gall fod gan wrthlyngyryddion gwahanol lefelau o effeithiolrwydd yn erbyn pob rhywogaeth o lyngyr – ni all FEC sylfaenol wahaniaethu rhwng gwahanol rywogaethau o lyngyr.
“Mae nodi pa rywogaethau sy’n bresennol cyn ac ar ôl trin yn bwysig gan y gallai methiant triniaeth ond effeithio ar fath penodol o lyngyr,” meddai.
Trwy ddeall pa lyngyr oedd yn gwbl effeithiol, mae’r teulu John yn gobeithio y gallan nhw gynnal y lefel honno o effeithiolrwydd trwy beidio â gorddefnyddio.
Mae Eurion yn argymell cynnal prawf FEC bob tro ar ôl dosio i sefydlu effeithiolrwydd gan y gall y sefyllfa newid.
Mae’n awgrymu bod ymwrthedd fwy na thebyg yn dod o ddiffyg effeithiolrwydd triniaeth, er y gall fod o ganlyniad i ffactorau eraill, megis sut mae gwrthlyngyryddion yn cael eu rhoi, a statws iechyd anifail.
Dywed Eurion fod y canlyniadau ar fferm Manselfold yn dangos y gellid defnyddio’r holl wrthlyngyryddion i drin nematodirus.
Gall effeithiolrwydd gwrthlyngyr yn erbyn llyngyr amrywio trwy gydol y tymor, felly gall triniaethau berfformio’n wahanol ar wahanol adegau o’r flwyddyn, meddai.
“Mae’r adeg o’r flwyddyn y mae’r FECRT yn cael ei gynnal yn bwysig oherwydd gall y mathau o lyngyr sy’n bresennol yn y defaid newid trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall methiant triniaeth i un gwrthlyngyr fod yn broblem mewn dim ond un rhywogaeth.”
I Dai, mae’r prosiect wedi bod yn “drawsnewidiol”.
“Rydyn ni bellach yn gwybod mwy a gallwn amddiffyn y gwrthlyngyryddion sy’n gweithio i ni a defnyddio’r rhain yn strategol ac ar yr adeg iawn o’r flwyddyn, pan rydyn ni’n gwybod y byddan nhw’n cael effaith mewn gwirionedd.”
Roedd y cyngor a gafodd y fferm 10 mlynedd yn ôl ar sut i leihau lefelau ymwrthedd wedi dangos effeithiolrwydd y dull hwn, ychwanega.
Mae cyngor milfeddygol arbenigol ar gael i helpu i asesu effeithiolrwydd anthelmintigau ar eich fferm. Mae busnesau sydd wedi cofrestru gyda rhaglen Cyswllt Ffermio yn gymwys i gael cymorth milfeddygol ‘un i un’ wedi’i ariannu, gyda Swyddogion Datblygu ar gael i arwain ffermwyr drwy’r broses ymgeisio. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyswllt Ffermio.
Ar gyfer Grŵp Dunbia, dangosodd prosiect WARS werth cydweithio rhwng ffermwyr, y diwydiant ac arbenigwyr technegol, yn ôl ei reolwr amaethyddol, Leisia Tudor.
“Mae wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu ein cynhyrchwyr i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n gwella iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid.
“Mae diadelloedd iach, effeithlon yn hollbwysig i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gig oen o ansawdd uchel, ac mae mentrau fel hyn yn helpu i gryfhau gwytnwch y gadwyn gyflenwi gyfan.”
PANEL
Yn seiliedig ar ganlyniadau’r profion ar fferm Manselfold, mae Kate Hovers, milfeddyg annibynnol sy’n gweithio gyda Techion UK, yn argymell y canlynol: gan fod benzimidazoles yn effeithiol yn erbyn nematodirus ond yn llai felly yn erbyn llyngyr eraill, fe all y teulu John ei ddefnyddio i drin y parasit hwn nid yn unig fel y drensh cyntaf ond yn ofalus ar adegau eraill, gan wneud hynny gyda rhagolygon risg lleol SCOPS a Hybu Cig Cymru.
“Mae hyn oherwydd bod canran o lyngyr sydd ddim yn bathogenig ar ôl, felly pan fyddwch chi’n eu tynnu allan, roedd yr effeithiolrwydd yn yr un prawf hwn yn well na 80%,” meddai.
Mae hi’n cynghori y dylid wedyn drensio ŵyn yn ôl yr angen gyda levamisole, ivermectin a moxidectin yn ôl cyfraddau twf, prawf cyfrif wyau, a sut olwg sydd ar yr anifeiliaid.
“Gellir defnyddio monepantel neu derquantel/abamectin fel drensh blynyddol pan fydd angen trin ŵyn ddiwedd yr haf i helpu i gynnal y cyfraddau twf gorau posibl trwy gael gwared ar lyngyr a adawyd ar ôl gan driniaethau cynharach ac i arafu datblygiad ymwrthedd i grwpiau hŷn o wrthlyngyryddion,” meddai.
Os yw mamogiaid mewn cyflwr da ac yn cario ŵyn sengl yn unig, efallai na fydd angen gwrthlyngyr arnyn nhw, ychwanega Kate, ac mae’n argymell profion FEC cyn y cyfnod wyna.
“Os oes grŵp teneuach o famogiaid o gwmpas adeg wyna, samplwch y rhain a drensiwch nhw os yw’r cyfrif wyau yn uchel, ond gofynnwch am gyngor gan filfeddyg y fferm ar hyn.”
Gall llyngyr haemonchus effeithio ar ddefaid yn ogystal ag ŵyn, gan gynhyrchu cyfrif wyau uchel iawn fel arfer.
Er bod yr wyau yn edrych yr un fath â llyngyr eraill, gellir cynnal prawf staenio mewn labordy i chwilio am haemonchus yn benodol.
Mae’r teulu John yn pori ŵyn ar wyndonnydd llysieuol a gall hyn helpu i leihau, ond nid dileu, yr angen am driniaethau.
Mae Kate yn dweud bod lefel y priodweddau anthelmintig mewn gwyndonnydd llysieuol yn ddadleuol, er eu bod yn cynnwys tannin sy’n cael rhywfaint o effaith yn erbyn llyngyr.
“Mae coesau’r borfa ar wndwn llysieuol ychydig yn llymach nag y maen nhw ar laswelltir cyffredin, felly mae larfa’r llyngyr yn ei chael hi’n anoddach dringo’r coesau i’r man lle maen nhw’n cael eu bwyta.”
Mae pori gwartheg a defaid ar yr un caeau yn fuddiol, ychwanega Kate, gan fod y rhan fwyaf o lyngyr yn targedu rhywogaethau penodol, gan effeithio ar naill ai defaid neu wartheg ond nid y ddau.
PANEL
Yn yr astudiaeth gyffredinol, canfuwyd llai o effeithiolrwydd i driniaethau anthelmintig ar draws y 48 fferm.
Benzimidazoles – drenshys gwyn – oedd â’r lleiaf o effeithiolrwydd, gan ddangos methiant yn aml wrth leihau cyfrif llyngyr – mewn rhai diadelloedd, cynyddodd y cyfrif wyau ar ôl triniaeth.
“Ni ddylai’r rhan fwyaf o ffermwyr defaid fod yn defnyddio drensh gwyn i drin llyngyr yr haf arferol oherwydd bod y mwyafrif wedi cael cryn dipyn o ymwrthedd, felly bydd yn gwbl aneffeithiol neu ddim mor effeithiol, a bydd hyn yn effeithio ar gyfraddau twf ŵyn,” meddai Kate.
Yn gyffredinol, roedd levamisole, ivermectin a moxidectin yn cynnig gostyngiad uwch a mwy cyson mewn beichiau llyngyr, er bod hyn yn amrywiol.
Fel arfer, cyflawnodd monepantel a derquantel / abamectin ostyngiadau cyflawn neu bron yn gyflawn mewn profion FEC.
FFEITHIAU AM Y FFERM
61 hectar yn cael ei ffermio
Yn tyfu swêds i’w bwyta gan bobl, gyda chaeau wedi’u pori yn y gaeaf ar ôl cynaeafu
4 hectar o haidd a 3 hectar o fetys porthiant
Prynir cyfanswm o 1t o soia y flwyddyn fel porthiant
Wyna dan do o ganol mis Mawrth
Mae mamogiaid yn pori tir comin yng Nghefn Bryn ar ôl diddyfnu’r ŵyn ddechrau mis Gorffennaf, ac mae’r ŵyn yn pori gwyndonnydd llysieuol.
Cyflenwir ŵyn i Dunbia fel rhan o gontract ‘Taste the Difference’
42kg o bwysau byw ar gyfartaledd i gyflawni pwysau marw o 20kg ar gyfartaledd