16 Ebrill 2026
Mae’r ffermwyr i gyd yn aelodau o grŵp trafod Cyswllt Ffermio lle maen nhw’n cael eu cefnogi gan yr ymgynghorydd defaid annibynnol, Lesley Stubbings, a’r prosesydd cig oen, Dunbia.
Mae cyfarfodydd y grŵp trafod a’r cyswllt sydd ganddyn nhw â’i gilydd rhwng pob cyfarfod nid yn unig wedi bod yn sbardun i wella perfformiad, ond hefyd wedi hwyluso cyfle i feithrin perthnasoedd busnes hirdymor.
Mae’r cynnydd maen nhw wedi’i wneud mewn gwella perfformiad wedi bod yn sylweddol, fel y dengys data a gasglwyd gan Dunbia.
Ers 2022, mae’r grŵp yn gyffredinol wedi cyflawni gwelliant o 5.4% yn nifer yr ŵyn sy’n cyrraedd y fanyleb, gyda dwy fferm yn codi’r cynnydd hwnnw dros 9% yn 2024/25 o’i chymharu â 2022/2023.
“Mae’r ffermwyr hyn wedi bod yn gwella’n barhaus dros y 15 mlynedd diwethaf, ond nid da lle gellir gwell,” meddai Leisia.
Mae hyn yn dangos gwerth fformat y grŵp trafod mewn amaethyddiaeth, meddai Leisia Tudor, rheolwr amaethyddiaeth yn y Dunbia Group.
“I Dunbia, mae’r berthynas gyson sydd gan y ffermwyr â Lesley dros y 15 mlynedd diwethaf wedi gweld gwelliannau sylweddol yn eu pwysau a’u graddau, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â gwelliant mewn effeithlonrwydd ar y fferm,” meddai Leisia.
“Yn aml, gall fod cysylltiad coll rhwng iechyd anifeiliaid, maeth, ac effeithlonrwydd cyffredinol y fferm, a ffermwyr yn deall sut mae’r rhain yn cael effaith ar yr enillion a dderbynnir gan y prosesydd.
“Mae’r grŵp hwn yn dangos, os ydych chi’n gwella iechyd eich anifeiliaid, yn profi eich porthiant, ac yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd cyffredinol y ddiadell, mae’n cael effaith gadarnhaol ar yr enillion a dderbynnir am yr ŵyn.”
Mae Cyswllt Ffermio yn hwyluso llawer o grwpiau trafod sector-benodol ledled Cymru, gan gynnwys grwpiau llaeth a biff hefyd, ond mae’r grŵp defaid hwn yn un o’r grwpiau hiraf.
Dangosir bod y model yn effeithiol iawn wrth drosglwyddo gwybodaeth.
Mae ffermwyr yn cyfnewid gwybodaeth ymarferol, profiad a syniadau, yn derbyn cyngor gan Lesley, a data ac adborth gan Dunbia.
Mae perfformiadau ariannol a chorfforol eu menter defaid hefyd yn cael eu monitro, ac wrth i ymddiriedaeth gael ei meithrin ymhlith yr aelodau, mae yna barodrwydd i rannu’r wybodaeth sensitif honno.
Mae’r aelodau’n agored iawn gyda’i gilydd, meddai Lesley. “Un o gryfderau’r grŵp yma yw bod pawb yn adnabod ei gilydd mor dda.
“Mewn cyfarfodydd, mae pawb yn rhannu’r hyn sydd wedi mynd yn dda, beth sydd ddim, efallai y bydd ffermwr yn meddwl bod ganddo broblem fawr ac yn amharod i’w rhannu, ond pan fydd yn gwneud hynny, ac yn sylweddoli bod gan eraill yr un broblem, mae’n dod yn rhywbeth y gellir ei reoli, ac mae’n teimlo’n llai ynysig.”
Mae grwpiau trafod yn creu cystadleuaeth hefyd. “Mae yna elfen gystadleuol gyfeillgar gadarnhaol iawn pan fydd gennych senario grŵp,” meddai Lesley ymhellach.
Mae sawl maes allweddol y mae’r grŵp trafod yn canolbwyntio arnyn nhw sydd wedi arwain at welliannau mewn perfformiad, fel yr eglura Lesley.
Sgorio cyflwr y corff
Pan ffurfiwyd y grŵp gyntaf, doedd ei aelodau ddim yn sgorio cyflwr cyrff (BCS) eu defaid, ond mae hyn bellach yn ail natur iddyn nhw, yn rhywbeth sy’n cael ei gymryd yn ganiataol.
Maen nhw’n ymwybodol bod angen iddyn nhw gyrraedd targedau BCS, ac os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, fydd pethau ddim fel y dylen nhw fod.
Roedd un neu ddau yn y gorffennol wedi cael profiadau gwael gyda llyngyr yr afu, ac yn deall y bydd yn effeithio ar eu BCS, felly rydyn ni’n defnyddio profion a monitro i sefydlu a oes angen trin, ac os felly, pryd dylid gwneud hynny.
Mae llawer o broblemau iechyd mewn ffermio da byw yn ymwneud â chyflwr cyrff yr anifeiliaid, felly pan fydd ffermwyr yn gwybod bod yna broblem sy’n effeithio ar gyflwr y cyrff, maen nhw’n llawer mwy effro i wneud rhywbeth amdano.
Dadansoddi porthiant ac addasu strategaethau bwydo
Yn y gorffennol, efallai y byddai’r ffermwyr hyn yn cynhyrchu eu porthiant, yn prynu eu dwysfwyd, ac yn bwydo’r un swm flwyddyn ar ôl blwyddyn heb unrhyw wybodaeth am ansawdd eu porthiant.
Ers i ni ddechrau dadansoddi porthiant, maen nhw’n deall gwerth posibl porthiant o ansawdd da. Mewn rhai achosion, mae aelodau’n cynhyrchu silwair da iawn; er enghraifft, dros 11.0MJME yn 2025.
Bydd dadansoddiad fel hyn yn gofyn am fwydo bron dim atchwanegiad, dim ond swm bach o un penodol iawn.
Ar y rhan fwyaf o’r ffermydd, rydyn ni wedi gallu gwella canlyniadau wrth leihau faint o atchwanegiad maen nhw’n ei fwydo yn eithaf dramatig, ac ar yr un pryd, cynyddu ei ansawdd a chyfateb y fformiwla yn fwy cywir i’r porthiant sydd ar gael.
Mae’r ffermwyr yn gweld yn uniongyrchol werth gwneud y mwyaf o borthiant ac mae rhai wedi dechrau cynhyrchu silwair o ansawdd gwell, wedi gwella sut maen nhw’n ei gynhyrchu a phryd, oherwydd pan fyddan nhw’n gweld ffermwr arall sydd ond yn bwydo swm penodol o atchwanegiad o’i gymharu â’r hyn maen nhw’n ei fwydo, mae’n rhoi mwy o werth iddo.
Gwella iechyd anifeiliaid a defnyddio meddyginiaethau lle bo’n briodol yn unig
Cymerwch lyngyr yr afu fel enghraifft. Roedd rhai yn defnyddio triniaethau yn rheolaidd heb wybod, o reidrwydd, a oedd ganddyn nhw broblem.
Trwy brofi, maen nhw bellach yn defnyddio’r ymyriadau hynny yn y ffordd orau posibl, ar yr adeg iawn, ac am y rhesymau cywir.
Dydyn nhw ddim bellach yn gwneud hynny oherwydd mai dyma’r hyn maen nhw bob amser wedi’i wneud yn y gobaith y bydd yn gweithio oherwydd eu bod yn gwybod hynny, yn enwedig gyda pharasitiaid; dyw hynny ddim yn ddigon da.
Maen nhw’n gwybod, os nad ydyn nhw’n siŵr a ddylen nhw drin, y gallan nhw fy ffonio ar unrhyw adeg a gwirio, ac mae cael cymorth rhywun y gallan nhw ymddiried ynddo yn golygu nad ydyn nhw’n mynd am yr hyn maen nhw’n credu yw’r opsiwn mwyaf diogel.
Defnyddio data i lywio penderfyniadau
Mae data a ddarperir gan Dunbia yn rhoi gafael dda i’r ffermwyr ar eu cynhyrchiant.
Mae’r adborth hwnnw, ar sut olwg sydd ar y carcasau a’u patrymau marchnata, yn hynod ddefnyddiol.
Mae’r ffermwyr yn gwybod beth yw elw gros eu diadelloedd, beth yw eu perfformiad corfforol, felly pan fyddwn yn siarad am wario arian ar frechlyn erthylu, er enghraifft, maen nhw’n gallu gweld y budd uniongyrchol ohono os yw’n eu hatal rhag colli potensial yn eu gwerthiannau cig oen.
Meini prawf dewis ŵyn
Mae’r ffermwyr yn mynd i mewn i’r lladd-dy yn Llanybydder i weld y carcasau a chael adborth, ac maen nhw’n cael data ynglŷn â faint o’u hŵyn sy’n cyrraedd y targed, faint sydd ddim, ac, o bosibl, faint mae’n ei gostio iddyn nhw.
Rydyn ni weithiau’n clywed y diwydiant yn cwyno bod ffermwyr yn derbyn y prisiau, bod yn rhaid iddyn nhw dderbyn y pris ar y diwrnod, ond mae’r gwaith hwn yn dangos nad yw bob amser yn wir – pan fydd cynhyrchydd cig oen yn gwerthu ar system dalu grid ac mae ganddo garcasau sydd ddim yn cyrraedd y radd, dyna’r rheswm pam mae ei ŵyn yn cael eu dibrisio a pham nad yw’n cael ei dalu’r hyn yr oedd wedi gobeithio ei gael.
Mae aelodau’r grŵp trafod yn gwybod nad ydyn nhw’n gallu fforddio gwneud hynny, bod yn rhaid iddyn nhw gyrraedd y graddau uchaf gyda chanran mor uchel o’u carcasau ag y gallan nhw.
PANEL
Gwerth bod yn aelod o grŵp trafod
I Danny Jones, mae’r ddisgyblaeth o gyflwyno costau cywir cyn pob cyfarfod, a chymharu ei ffigyrau ag eraill yn y grŵp, wedi canolbwyntio ei sylw ar gost cynhyrchu.
Mae’r ymarfer hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar berfformiad ei fusnes, ac er bod ei gostau wedi cynyddu, mae ei elw wedi cynyddu hefyd.
“Mae’n debyg na fyddwn yn cadw llygad mor graff ar gostau pe na bawn i yn y grŵp,” cyfaddefa Danny, sy’n ffermio ar fferm Pantycelyn yn ardal Cwm-ann ger Llanbedr Pont Steffan.
Mae aelod arall, Peredur Owen, sy’n rhan o fenter ffermio cyfran yng Nglanmynys ger Llanymddyfri, yn dweud bod cael mynediad at arbenigedd proffesiynol ymgynghorydd yn ei helpu i fynd i’r afael â materion yn ei system a dod o hyd i atebion.
“Rydyn ni’n ffodus iawn i gael mewnbwn Lesley. Mae’n ein hysgogi ni i gyd i wella, ac i fod yn ymwybodol o’n perfformiad.”
Mae hyn wedi’i gyflawni mewn sawl maes, gan gynnwys iechyd anifeiliaid, yn ôl Anwen Hughes, sydd wedi bod yn aelod o’r grŵp ers ei ffurfio.