Wedi'i lansio yn 2012, mae'r rhaglen wedi meithrin enw da am greu cyfeillgarwch oes a syniadau ysbrydoledig a all helpu i lunio gyrfaoedd. Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer carfan 2026 yn cau am hanner nos ddydd Sul, 14 Mehefin 2026.
Os oes gennych chi uchelgais ond gallech elwa o gyfarwyddyd a rhwydweithio - mae'r rhaglen yn cynnig cyfle i fagu hyder, datblygu sgiliau a chyrraedd eich potensial.
Mae aelodau’n elwa o raglen ddwys o hyfforddiant, mentora a chymorth ar draws tair sesiwn breswyl, gan gynnwys ymweliad astudio dramor. Mae'r profiad yn annog twf personol, rhwydweithio a rhannu syniadau - gan agor drysau i gyfleoedd newydd.
Nod yr Academi Amaeth a Rhaglen yr Ifanc yw ysbrydoli a sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ffermio yng Nghymru'r wybodaeth sydd ei angen arnynt fel y profodd Sophie Hughes o Wrecsam a oedd yn rhan o garfan 2025. Dywed Sophie, “ffermwyr ifanc yw dyfodol y diwydiant. Bydd technoleg, geneteg a gwaith ymchwil yn parhau i wella dros amser, ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn parhau i ddefnyddio a llywio ein busnesau ymlaen.” Mae bod yn rhan o'r Academi yn ffordd wych o ddysgu a datblygu gwell dealltwriaeth o fusnes a mwy.
Mae Sophie yn ffermio 66ha a 36ha arall o dir rhent, gan redeg buches o 100 o wartheg Friesian Prydeinig yn bennaf. Mae'r fuches yn lloia drwy gydol y flwyddyn ac yn pori am 7-8 mis, gan gyflenwi llaeth i Müller ar gontract confensiynol. Mae'r system yn symud tuag at fagu heffrod cyfnewid a phesgi rhai lloi bîff. Mae hi hefyd yn rheoli diadell o 200 o famogiaid croes Texel masnachol, gan ŵyna ddiwedd mis Ionawr i dargedu marchnadoedd cynnar y gwanwyn.
Gwnaeth Sophie gais am Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn 2025 ar ôl dychwelyd adref i weithio'n llawn amser ar y fferm deuluol, ar ôl gweithio mewn swydd gyfrifyddu yn flaenorol. Cynigiodd y rhaglen gyfleoedd gwerthfawr i gysylltu ag unigolion o'r un anian ac ehangu ei rhwydwaith, gan gynorthwyo ei datblygiad personol a busnes. Aeth ymlaen i ennill her yr Academi Amaeth ar ddiwedd y rhaglen.
Ar ôl profiad buddiol iawn, mae Sophie yn bwriadu cymryd rhan mewn rhaglenni Cyswllt Ffermio pellach yn y dyfodol. Yr agwedd fwyaf gwerthfawr i Sophie oedd natur agored y ffermydd yr ymwelwyd â hwy, gan ganiatáu iddi ennill gwybodaeth ymarferol a chael syniadau i’w rhoi ar waith gartref. Ehangodd y rhaglen ei dealltwriaeth o arallgyfeirio'r fferm, gan gynnwys y camau a'r heriau dan sylw.
Cryfhaodd hefyd ei sgiliau siarad cyhoeddus, gan roi hwb i’w hyder i herio canfyddiadau a myfyrio’n feirniadol ar berfformiad ei busnes ei hun - gan gefnogi gwelliannau mewn proffidioldeb a chynaliadwyedd.
Roedd rhwydweithio'r un mor bwysig, gan roi’r cyfle i gysylltu â ffermwyr medrus, rhannu syniadau, a rhoi hwb i’w gilydd. Ers cwblhau’r Academi Amaeth, mae Sophie wedi sicrhau tir ychwanegol trwy gytundeb FBT, gan ei galluogi i ehangu’r busnes.
Mae hi hefyd wedi ymuno â grŵp trafod llaeth, wedi cwblhau gwaith meincnodi ariannol ac wedi helpu i nodi meysydd i'w gwella o fewn y busnes. Mae hi'n bwriadu cyflwyno gwndwn llysieuol yr hydref hwn i helpu i fynd i'r afael â chyfnodau o sychder a gwella cyflenwad porthiant yr haf.
Rhoddodd ymweliadau â ffermydd llwyddiannus ledled Cymru a Lloegr bwyslais newydd iddi ar ddadansoddi perfformiad a phroffidioldeb, gan annog mwy o hunanymwybyddiaeth a myfyrio ar gryfderau a gwendidau.
Mae Sophie hefyd wedi croesawu arloesedd a chynaliadwyedd drwy gyflwyno technoleg newydd i wella effeithlonrwydd a lleihau llwyth gwaith, gyda phwyslais cryf ar wella cynaliadwyedd dros y 12 mis nesaf.
Roedd y daith i Japan yn brofiad cofiadwy, unwaith mewn oes, gyda chroesawyr rhagorol a'r cyfle i deithio ar draws y wlad ac ymgolli yn y diwylliant.
Cynigiodd ddatblygiad personol sylweddol, gan helpu Sophie i nodi gwelliannau ar gyfer ei busnes ei hun, gyda chymorth parhaus gan Cyswllt Ffermio. Mae'r Academi Amaeth hefyd wedi ei gwneud hi'n fwy hyderus ac allblyg, gan ei galluogi i ganfod a manteisio ar gyfleoedd sy'n fuddiol i'w busnes.
Disgrifiodd Sophie ei phrofiad fel un “addysgiadol, dymunol a thrawsnewidiol” ac mae’n annog eraill i wneud cais eleni. “Byddwn yn argymell i unrhyw un wneud cais yn fawr iawn, nid yn unig y mae’n gyfle gwych i ymweld â busnesau rhagorol yn y DU a thramor i gasglu syniadau i’w rhoi ar waith yn eich busnes eich hun ond mae hefyd yn ffordd wych o gwrdd ag unigolion o’r un anian o bob cwr o Gymru a fydd yn dod yn ffrindiau gwych!”
“Y llynedd, fe wnaethon ni ddenu'r nifer uchaf o geisiadau”, meddai Einir Davies, Pennaeth Dysgu Gydol Oes, Cenedlaethau’r Dyfodol ac Olyniaeth gyda Mentera, sy’n darparu’r rhaglen Cyswllt Ffermio. “Wrth i’r sector amaeth barhau i esblygu, nid yw buddsoddi mewn pobl erioed wedi bod yn bwysicach. Mae’r Academi Amaeth yn cynorthwyo unigolion i ddatblygu’r sgiliau, y gwydnwch a’r syniadau newydd sydd eu hangen i adeiladu busnesau fferm cynaliadwy a phroffidiol ar gyfer y dyfodol. Mae’n gyfle unigryw i gamu’n ôl, myfyrio, a dychwelyd gyda phwyslais a chyfeiriad newydd.”
Peidiwch â cholli’r cyfle! Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer ceisiadau 2026 yn cau am hanner nos, dydd Sul, 14 Mehefin. Mae rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais ar gael. YMA!
Cyfle ychwanegol i gyn-aelodau’r Academi Amaeth!
Yn newydd eleni, mae Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn cynnig dwy ysgoloriaeth i gyn-aelodau sy'n rhoi cyfle unigryw i ailymuno â sesiynau preswyl y rhaglen, gyda'r holl deithio a llety wedi'u talu'n llawn. Fel rhan o'r ysgoloriaeth, mae rôl Arweinydd Academi Amaeth cyflogedig newydd yn cael ei chyflwyno, gan gyfuno'r ysgoloriaeth â chyfrifoldebau a rennir ochr yn ochr â'r Hwylusydd, gan ganolbwyntio ar gynorthwyo aelodau, dynameg tîm, a’r profiad cyffredinol. Mae'r newid hwn yn adlewyrchu dealltwriaeth yr Academi bod ei heffaith fwyaf yn dod o ddatblygiad personol a'r perthnasoedd cryf a gafodd eu meithrin yn ystod ymweliadau preswyl ac astudio. Wrth i'r sector amaeth wynebu newid cyflym, mae'r rhaglen yn esblygu i ddatblygu unigolion hyderus, hunanymwybodol, a gwydn. Gwahoddir cyn-aelodau cymwys i wneud cais trwy gyflwyno fideo byr a CV, yn dangos sut y byddent yn cyflawni'r rôl.
Mae rhagor o wybodaeth am y ddau gyfle cyffrous sy'n newydd i Academi Amaeth eleni ar gael YMA! I wneud cais am Ysgoloriaeth y cyn-aelodau a swydd Arweinydd yr Academi Amaeth ar gyfer 2026, anfonwch fideo, dim mwy na 5 munud o hyd, yn egluro sut y byddech chi'n cyflawni gofynion y swydd.
Dylid anfon eich fideo a chopi o'ch CV at einir.davies@mentera.cymru. Gellir anfon fideos hefyd drwy WhatsApp at Einir Davies ar 07985155514.