BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Success story (CY)

Cynllun rheoli maetholion yn helpu fferm sy’n cadw da byw i leihau’r defnydd o wrtaith artiffisial

Part of:
Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2023
Diweddarwyd diwethaf:
2 Chwefror 2024
Harri Parri

14 Awst 2023

Mae cynllun rheoli maetholion a ariennir yn rhannol gan Cyswllt Ffermio yn caniatáu i fferm sy’n cadw da byw yng Nghymru gynnal cnwd glaswellt a chynnyrch âr a lleihau dibyniaeth ar wrtaith synthetig.

Missing media item.

Mae Harri Parri a’i deulu yn ffermio 293 hectar ar draws tri daliad ger Pwllheli ac ym Mhen Llŷn.

Yma, maent yn rhedeg buches sugno o wartheg bîff Stabilisers, diadell o famogiaid Lleyn a Lleyn x Suffolk Seland Newydd a 32,000 o ieir maes.

Yn 2021, dyfarnwyd cyllid i’r busnes gan Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio i dalu’n rhannol am Gynllun Rheoli Maetholion.
Defnyddiwyd y cyllid i lywio penderfyniadau priodol ar chwalu maetholion ar gyfer caeau.

Ers hynny, mae targedu'r gwaith chwalu hynny a rheoli tail buarth a thail ieir yn well wedi galluogi'r busnes i haneru faint o wrtaith y mae’n ei brynu.

“Mae gennym ni ddigonedd o botash a ffosffad yn deillio o’r dofednod, a thrwy brofi’r pridd a chynlluniau rheoli maetholion, rydym yn gallu ei ddefnyddio’n well sy’n golygu nad oes angen i ni brynu potash a ffosffad cemegol, dim ond nitrogen neu wrea,’’ eglura Harri.

“Rydym wedi lleihau costau mewnbwn ac yn parhau i gynnal cynnyrch yn ein cnydau oddi ar y tir hefyd.''

Mae deugain hectar o haidd, ceirch a betys porthiant yn cael eu tyfu mewn cylchdro o bedair neu bum mlynedd i leihau’r risg i’r busnes yn erbyn prisiau porthiant uchel.

Mae mwyafrif y cnydau âr yn cael eu tyfu gydag ychydig iawn o Nitrogen mewn bagiau.

Mae rhedeg menter ffermio gymysg yn adeiladu gwytnwch yn y pridd, gan ganiatáu i gynnyrch o fwy na 3t/erw gael ei ddal o haidd heb y mewnbwn a brynwyd.

Mae gan y mwyafrif o gaeau fynegai P a K o 2 neu 3 a pH ar draws cyfartaleddau’r fferm 6.1.
Mae profi’r pridd yn arwain y busnes ar anghenion maetholion caeau, er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch ble mae angen targedu tail.

Am y chwe blynedd diwethaf, mae Harri wedi defnyddio calch ar ffurf pelenni yn hytrach na chalch confensiynol i godi lefelau pH y pridd ar ôl mynychu diwrnod agored Cyswllt Ffermio lle trafodwyd y dull hwn.

Dywed fod diwrnodau agored fel y rhain yn ddefnyddiol iawn i ennill gwybodaeth am syniadau newydd neu atgyfnerthu arferion presennol.

“Rwy'n cael cipolwg yn y digwyddiadau hyn ac yng ngrwpiau trafod bîff a defaid a dofednod Cyswllt Ffermio yr wyf yn aelod ohonynt.''

Mae'r grwpiau trafod hyn yn cyfarfod pedair neu bum gwaith y flwyddyn, ac wedi'u hwyluso gan y Swyddog Datblygu Lleol.

“Fel grŵp bîff a defaid, roeddem yn awyddus i gyflwyno elfen fusnes ac roedd yr hyblygrwydd i wneud hyn ac ehangu ein hystod o siaradwyr,’’ meddai Harri.

Pan sefydlodd y teulu’r busnes wyau buarth prin oedd eu gwybodaeth am ddofednod, felly mae bod yn rhan o grŵp trafod wedi bod o gymorth.

Mae’r busnes yn cyflogi dau weithiwr llawn amser a saith gweithiwr rhan amser ar draws yr holl fentrau, gyda Harri a’i dad yn gweithio’n llawn amser yn y busnes hefyd.

Mae sicrhau bod gan bawb yr hyfforddiant sgiliau cywir yn flaenoriaeth. “Mae cymorth sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio wedi bod yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cael y sgiliau a’r cymwyseddau allweddol sydd eu hangen arnom i gyflawni ein hamcanion personol, busnes a thechnegol.”

Mae Harri a'i staff wedi manteisio ar nifer o gyrsiau hyfforddiant a ariannwyd gan Cyswllt Ffermio, o hyfforddiant dofednod sy'n ofynnol yn ôl British Lion Code i ddiogelwch tryc codi telesgopig ar gyfer tir garw (telehandler) a beic cwad i gyd wedi'u hariannu hyd at 80%.

Fel ffermwr, mae Harri yn gweld datblygiad y busnes drwy gyflwyno syniadau newydd yn raddol fel y ffordd ymlaen.
“Os ydych chi'n datblygu’n barhaus, yn lle chwyldroi a newid popeth dros nos, mae'r system yn symud gyda chi, mae'r cyfan yn slotio i'w le.

“Rydym bob amser yn cwestiynu beth rydym yn ei wneud i sicrhau ein bod yn gwneud popeth cystal ag y gallwn.''

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael cyngor arbenigol drwy’r Gwasanaeth Cynghori neu i wneud cais am Sgiliau a Hyfforddiant, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol llyw.cymru/cyswlltffermioswyddogion.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.